Sgwrs:Bedydd Wicaidd

Sylw diweddaraf: 12 o flynyddoedd yn ôl gan Hazard-Bot ym mhwnc Dolen wallus 2

Enw'r erthygl

golygu

"To baptise" neu "to christen" yw ystyr "bedyddio," sydd gan ystyr penodol yng Nghristnogaeth, ac ddim ym Mhaganiaeth neu Wica o ganlyniad. Beth am fathu term sydd ar hyd y llinell o "Wiceiddio" neu "Wicyddio"? Edrych yn od, rhaid dweud, ond nid yw'r term a ddefnyddir ar hyn o bryd yn ffitio terminoleg neu gred Wica. Xxglennxx 21:13, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb

Cytuno. Wiceiddio'r baban. Llywelyn2000 21:52, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Beth wyt ti'n meddwl o "Wiceiddio" ar ei ben ei hun (sydd jyst fel yn y Saesneg Wiccaning fel berf a gweithred)? Imi, mae "Wiceiddio'r Baban" yn dweud, "To Wiccan the baby" (e.e., Mae e'n Wiceiddio'r baban fel berf weithredol yma yn lle bod yn statig fel berf ar ei ben ei hun). Xxglennxx 22:01, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Difyr! Dwi ddim yn hollol siwr am "Wiceiddio", ond pam lai, mae'n debyg. Ynglŷn â'r gair 'bedydd(io)", mae'n wir fod ganddo'r ystyr "bedydd Cristnogol" yn bennaf ond does dim rheswm pam na ellir ei ddefnyddio am unrhyw ddefod sy'n cyflwyno rhywun i unrhyw ffydd neu grefydd trwy gyfrwng dŵr. Mae gan y grefydd Shingon ddefod 'bedydd' a dyna'r union air sy'n ei disgrifio yn Crefyddau'r Dwyrain C.G. Williams: dim rheswm pam na allwch gael "bedydd paganaidd" felly. Ond os nad ydy taenellu dŵr neu ymdrochi yn rhan o'r ddefod Wica does dim synnwyr yn y term 'bedyddio (Wica)'. Anatiomaros 22:28, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
ON Wrth chwilio am enghreifftiau rwan dwi wedi dod ar draws 'bedydd bogel' sef gair hynafiaethol am "circumcision". 'Mond allan o ddiddordeb...! Anatiomaros 22:32, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Mae'n wir y gallwn ni ddefnyddio'r gair "bedyddio," ond os yw rhywun am siarad neu drafod y pwnc hwn, bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio'r gael "bedyddio" ar ei ben ei hun - nid ydym yn mynd i ddweud "bedyddio (Wica)," ac o ganlyniad mi fydd y person arall yn meddwl am gynodiadau Cristionogol yn unig, sydd pam ydyn ni angen term gwahanol, newydd. Os yr ydym yn penderfynu i ddefnyddio'r gair "bedyddio" yn nisgrifiad yr erthygl (yr enw, felly), bydd yn well inni ddefnyddio rhywbeth fel "Bedyddio Wicaidd" er mwyn dangos y wahaniaeth rhwng y ddefod Gristionogol a'r ddefod Baganaidd. Mae Cysgeir yn rhestru enwaedu ac enwaediad (dynion/merched) :) Xxglennxx 23:00, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Mae i fyny i ti. Mae'n dibynu ar y ddefod ac rwyt ti'n gwybod mwy am hynny na fi. Gyda llaw, ystyr arferol 'enwaedu/enwaediad' yw circumcision (<'gwaedu'). Anatiomaros 23:07, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Byddai cadw at 'Bedydd Wicaidd' yn llawer symlach a mwy eglur i'r darllenydd. Llywelyn2000 23:10, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Byddai. Camddeall oedd Glenn, dwi'n meddwl. Dyfynnu enw'r erthygl oeddwn i, dim awgrymu ein bod yn sgwennu 'bedydd (Wica)' yn yr erthygl ei hun... Anatiomaros 23:11, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Dwi o blaid "Bedydd Wicaidd," ond wedyn dyn ni'n dweud "(A) Wiccan Baptism" yn lle "Wicanning." Oes modd defnyddio berf ac ansoddair yn y Gymraeg, neu oes rhaid inni ddefnyddio enw ac wedyn ansoddair (jyst chwilfrydig dwi)? A do'n i ddim yn awgrymu dyn ni'n ysgrifennu "Bedydd (Wica)" - swnio'n ddoniol :) Ond ie, dwi o blaid Bedydd Wicaidd. Xxglennxx 23:17, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
'Bedydd Wicaidd' amdani felly, os rwyt ti'n hapus efo hynny (ydy'r ddefod yn cynnwys dŵr?). Mae'n mynd yn hwyr, felly Nos Da! Anatiomaros 23:27, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb
Ydw, dwi'n hapus 'da 'ny. Ac ydy :) Newidiaf yr erthygl nawr. Xxglennxx 23:31, 7 Ebrill 2010 (UTC)Ateb

Dolen wallus

golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 02:50, 2 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

Dolen wallus 2

golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 02:50, 2 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Bedydd Wicaidd".