Sgwrs:Betws-y-coed

Latest comment: blwyddyn yn ôl by Rhyswynne in topic Sillafiad

Sillafiad golygu

Roedd yr erthygl yn sonio am ddau sillafiad, sef Betws-y-coed a Betws-y-Coed. Ar gyfer y "c" fach, roedd yn dyfynnu gwefan Llywodraeth Cymru. Mae'r adnodd wedi symud i wefan Comisynydd y Gymraeg, a byddaf yn diweddaru'r ddolen. Ond o ran yr "C" fawr, roedd yn dyfynnu gwefan answyddogol sy'n honni (ar eu tudalen blaen) bod yn seiliedig ar enwau fel y cofnodir gan yr Arolwg Ordnans. Fodd bynnag, os cymerwch gipolwg ar eu mapiau, gwelwch fod yr enw wedi'i ysgrifennu fel BETWS-Y-COED (mewn priflythrennau bloc), felly dim ond dehongliad cynhalwyr y wefan answyddogol yw sut i'w briflythrennu. Ddylen ni ddim dibynnu ar y ffynhonnell hon i brofi bod y "C" fawr yn ddilys. Byddaf yn cael gwared ar y cyfeiriad hwn yn gyfan gwbl, felly.

Hefyd, hoffwn i newid teitl y dudalen i Betws-y-coed gyda "c" fach. Ceisiaf i ei symud, ond os nad yw'n gweithio, mae'n bosib y bydd angen help gan weinyddwr. Mi welwn. Dani di Neudo (sgwrs) 18:02, 8 Mawrth 2023 (UTC)Ateb

Dwi newydd lwyddo i symud y dudalen er gwaetha'r dudalen ail-gyfeirio (gyda'r "c" fach) a oedd yn bodoli, heb angen help gan weinyddwr. Dwi ddim yn deall sut yn union y gweithiodd, ond dyna ni. --Dani di Neudo (sgwrs) 18:10, 8 Mawrth 2023 (UTC)Ateb
@Dani di Neudo: Rwy'n cytuno: dylai'r tudalen symud i "Betws-y-coed". Fodd bynnag, arhosodd y Wicidata ar y dudalen ailgyfeirio, felly doedd yr erthygl ddim yn cysylltu ag ieithoedd eraill mwyach, a doedd y gwybodlen ar y dde yn gweithio'n iawn. (Weithiau mae'r symudiadau hyn yn mynd o chwith.) Rwyf wedi trwsio hyn - mae'n ddigon hawdd. Serch hynny, yn ym marn i, dylen ni gadw'r cyfeiriad at British Place Names, sy'n ffynhonnell ddefnyddiol. --Craigysgafn (sgwrs) 22:59, 8 Mawrth 2023 (UTC)Ateb
Diolch am ei drwsio. Pwynt bach - beth yw'r fantais mewn creu dolen at wefan Llywodraeth Cymru yn hytrach na dolen uniongyrchol at wefan Comisiynydd y Gymraeg? Does gen i ddim barn gref amdani, ond mae'n ychwanegu dau glic a fyddai angen er mwyn gweld y rhestr ei hun. Dani di Neudo (sgwrs) 13:32, 9 Mawrth 2023 (UTC)Ateb
Ti'n iawn! Nes i ailddefnyddio'r hen dolen heb feddwl. Mae dolen uniongyrchol i wefan y Comisiynydd wedi dod ar gael ers hynny. Wedi'i drwsio nawr. Diolch! --Craigysgafn (sgwrs) 13:41, 9 Mawrth 2023 (UTC)Ateb
Tra dwi'n cytuno mai 'c' fach sy'n iawn, mae'n werth nodi bod dolen ar wefan y Comisiynydd wrth ochr pob enw yn mynd at wefan OS..... Mae'r dudalen OS ar gyfer y lle yn ei alw'n Betws-y-Coed sy'n wahanol i beth mae'r Comisiwn yn ei ddweud. O chwilio BydTermCymru (gwefan y Llywodraeth ar gyfer cysoni sillafu a thermau Cymraeg) mae'n edrych fel bod gwahaniaethu drwy roi 'c' fach yn Gymraeg ac 'c' fawr yn Saesneg yn enw'r ward (Cymraeg: Betws-y-coed a Threfriw, Saesnegː Betws-y-Coed and Trefriw). Mae nodyn yn dweudː Dyma'r enwau a ragnodwyd yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer y ward yng Ngorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021. Jest i gymysgu pethau ymhellach, mae enw'r lle yn nheitlau'r gorchymyn cefnffyrdd yn wahanol yn y ddwy iaith ('c' fach yn Gymraeg ayyb), ond yn y diweddaraf o 2022 ar BydTermCymru mae'r ffurff 'c' fach yn cael ei ddefnyddio yn y ddwy iaithǃ Yn yr achosion hyn ar BydTermCymru, dilyn trefn yr awdurdod lleol maen nhw dwi'n meddwl, nid gosod barn eu hunain --Rhyswynne (sgwrs) 14:38, 10 Mawrth 2023 (UTC)Ateb
Diolch, Rhys, am dy ymchwil trylwyr. Mae'n ymddangos i mi, felly, y dylen ni gadw'r fersiwn "Coed" fel dewis amgen yn y frawddeg gyntaf. Mae hyn oll yn gwneud i mi feddwl y dylen ni ddyfeisio ffordd fwy penodol o farcio'r fersiynau a argymhellir yn swyddogol. Rwyf wedi bod yn brysur ers cryn amser yn mewnosod cyfeiriadau i'r ffurfiau a argymhellir gan Lywodraeth Cymru, ond efallai y byddai'n gwneud cymwynas â darllenwyr pe baem ni' gwneud hyn yn gliriach. Craigysgafn (sgwrs) 16:45, 10 Mawrth 2023 (UTC)Ateb
Mae'n anodd gwybod sut i'w drin orau. Gall fod mai mond heb ddiweddaru eu gwefan mae OS, ond petai OS ddim yn derbyn sillafiadau'r Comisiynydd (oes rheidrwydd arno i wneud?) byddai wedyn dadl (ar y wici Saesneg yn sicrǃ) ynglŷn â phwy ddylem ddilyn yma fel yr awdurdod pennaf. Dwi'n cymryd byddai'r awdurdod lleol yn dilyn cyngor y Comisiynydd yn y pen draw. O ran yr anghysondebau yn nheitlau'r gorchmynion cefnffyrdd, mae'n edrych fel bod cyfnod o phasing out y sillafiad 'C' fawr yn Saesneg. Beth sy'n rhyfedd yw bod Llywodraeth Cymru wedi llunio offerynnau statudol mor ddiweddar â 2021 yn cynnwys sillafiadau yn groes i beth mae'r Comisiynydd yn ei ddweud. Ar y Wiki Saesneg mae'n defnyddio 'c' fach yn nhestun yr erthygl, ond dydy teitl yr erthygl heb ei addaus (neu heb gael ei symud). Yn yr un modd, 'C' fawr yw beth mae erthyglau mewn ieithoedd eraill yn eu defnyddio, gan eu bod wedi'u cyfieithu o'r Seasneg fwy na thebyg. Fy nghynnig i yw ein bod ni'n gadael popeth fel y mae am y tro, yma ac ar y ieithoedd eraill, 'nes i'r llwch setlo' yna mynd ati i newid pethau. Roeddwn ond yn nodi'r gwahanol sillafiadau yma er gwybodaeth jest i ddangos nad yw'n ddu a gwyn eto. Dwi'n meddwl mai dyma fydd y sefyllfa gyda safoni sillafiadau a symud at 'Gymreigio' y sillafiadau am gyfnod. --Rhyswynne (sgwrs) 10:31, 13 Mawrth 2023 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Betws-y-coed".