Sgwrs:Cala goeg

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Rhodri77 in topic Strap gala

Hmmm.... Deb 16:18, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Ai dyma'r enw mwyaf cyfarwydd, mewn gwirionedd? Dwi'n cyfaddef ei fod yn air newydd i mi. Siawns mai 'dildo' yw'r term mwyaf cyffredin o lawer? Basai'n braf cael tipyn bach mwy o gig ar yr asgwrn hefyd (fel petai!), yn lle dwy frawddeg o destun gydag oriel fawr o luniau (dwi ddim yn prude, ond oes angen nhw i gyd?). Anatiomaros 16:54, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Dildo fydden i'n dueddol o ddweud yn naturiol (*yn cochi*...nid 'mod i'n defnyddio'r gair mor aml a hynny, onest!) ond ffugbidlen sydd ar y dudalen gwain. Falle dylen ni newid e i 'dildo' ta beth! O ran y lluniau, sawl un fyddai'n addas? Rhodri77 17:48, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Gyda llaw, newydd fod ar y dudalen Saesneg ac maen nhw'n dweud mai'r term Cymraeg (neu un term posib, o leiaf) yw "cala coeg". Yw hynny'n well? Rhodri77 17:51, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Mae'n ymddangos fod erthygl cala goeg yn bodoli'n barod. Glanhawr 18:03, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Nid ar gyfer hyn y bwriadwyd y galeri. Mae un delwedd yn ddigon, a dwi wedi ei newid yr erthygl i'r perwyl. Synnu, fodd bynnag, fod Deb yn ddi-eiriau! Llywelyn2000 18:08, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Bydd angen troi un o'r erthyglau - neu'r ddwy efallai - yn dudalen(nau) ailgyfeirio. Be gawn ni, felly, 'ffugbidlen', 'cala goeg' neu 'dildo'? Neu oes 'na air arall hefyd? Does dim cymaint â hynny o wahaniaeth gen i, ond yn amlwg fedrem ni ddim cael dwy erthygl am yr un peth. Am nifer y lluniau, dwi'n meddwl fod lle i ddau neu dri os cawn ni ddigon o destun i gyfiawnhau hynny (coeliwch neu beidio, mae hanes y taclau 'ma yn un hir ac yn cyffwrdd ar sawl agwedd ar rywioldeb a ballu...). Anatiomaros 18:38, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Mi awdawn hynny i'th ddoethineb arferol di! Llywelyn2000 18:41, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Diolch (dwi'n meddwl?!). Sgen i ddim syniad pa un i'w ddewis rhwng 'ffugbidlen' a 'cala goeg'. Mae'n ymddangos mai drychau o gyfeiriadau ar wici ydy pob enghraifft o 'cala goeg' ar y we tra bod un enghraifft o 'ffugbidlen' ar y Rhegiadur ([1]), ond dwi ddim yn siwr fod hynny'n profi llawer. O leia mae nhw'n enwau Cymraeg. Ond ar y llaw arall rydym ni'n fod i ddefnyddio'r ffurfiau mwya cyfarwydd. Er dydy o ddim yn y geiriadur (mae'n debyg), mae 'na le i ddadlau fod y gair 'dildo' yn air benthyg Cymraeg erbyn hyn ac yn debyg o fod yn air sy'n gyfarwydd i bawb heblaw Mrs Jones, Llanrug (ac dwi ddim yn siwr amdani hi y dyddiau hyn, chwaith...). Beth am bleidlais sydyn? Rwyt ti'n ngalw fi'n Solomon, Llywelyn, ond mae angen cleddyf miniog iawn i hollti hyn! Anatiomaros 18:59, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Paid a hollti blew. O.N. Mae Mrs Jones Llanrug yn cofio atat, ac yn diolch. Llywelyn2000 22:06, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Dyma ragor o flew i'w hollti. Yn ôl y Rhegiadur, os medrem ni trystio nhw, mae'r geiriau a thermau Cymraeg am y gair bach syml 'na "dildo" yn cynnwys: dildan, ffwrchgrynnwr, cryniadur, hudlath y forwyn, cryno ddic, gwain-grynwr, dirgrynnwr, peiriant pleser, teclyn ticlo, mwdwlwasgwr cyfleus, ffwrchfodur, ffugbidlen, robococ. Gobeithio fod hynny o gymorth. Gyda llaw, wnei di ddeud wrth Mrs J mi wela'i hi nos Wener, fel arfer? Diolch. Anatiomaros 22:31, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Anatiomaros - diolch am ddod a gwen i'r wyneb peth cyntaf ar fore dydd Mercher!! Mae'r termau uchod yn fendigedig - ond o ran y bleidlais sydyn, bydden i'n dueddol o fynd am y Cala coeg. Byddai'n edrych ychydig yn well na Robococ ar y wici!! ;o) Rhodri77 06:54, 15 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
I gyd yn rhan o'r gwasanaeth, Rhodri :-) Mi welaf fod Llywelyn wedi datrys fy mhenbleth trwy ailgyfeirio 'ffugbidlen' at 'cala goeg'. Dyna setlo hynny, felly. Gyda llaw, Llywelyn, mi welais i Mrs J echnos ac mae hi'n deud mai 'ffon nain' ydy'r gair yn Llanrug (ond ewcs, mae hi'n dechrau drysu hefyd...). Anatiomaros 23:46, 18 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Strap gala golygu

"Gelwir y math hwn yn 'strap gala' mewn rhai rhannau o Ddyfed", yn ôl yr erthygl. Dwi ddim yn amau hynny (a wnes i ddim ychwanegu'r tag), ond am ddarn o wybodaeth mor arbenigol basa'n braf cael ffynhonnell o ryw fath, os posibl. "Mewn rhai rhannau o Ddyfed"? Dwi'n meddwl basa gan rywun yr hawl i ofyn "lle yn union felly?"! 'Mond gofyn', fel arfer... Anatiomaros 23:14, 30 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Wel yn y Sir Gaerfyrddin neu Sir Benfro presennol mae'n rhaid, achos fyddai'r fath beth byth i'w gweld yng Ngheredigion. Ych-a-fi!! ;o) Rhodri77 06:20, 1 Mai 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Cala goeg".