Sgwrs:Carnedd gylchog

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Coords & geogroup

Categori

golygu

Digon o amser i ystyried eto, ond newidiais enw'r categori arfaethedig. Ceir Y Carneddau, er enghraifft, er nad oes gategori eto. Be ti'n feddwl? Eglurach, efallai? Wedyn cawn 'Carneddau cylchog Cymru' fel is-gategori yn nes ymlaen, wrth i erthyglau ymddangos, efallai? H.y. os oes angen creu categoriau manwl. Nodi hyn wrth fynd heibio - rhywbeth arall ar y rhestr o bethau i'w wneud...! Anatiomaros 21:53, 8 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Gret. Bum yn ystyried 'carneddi' - er mwyn gwahaniaethu rhwng Y Carneddau (mynyddoedd Eryri) a'r carneddi/au Celtaidd hyn. Mae'r ddau yng Ngeiriadur Bruce. Llywelyn2000 22:22, 8 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Diolch. Ia, gwn am yr amrywiad 'carneddi' (enw lle hefyd, ger Pesda). Newydd weld y rhestr. Gwych a defnyddiol dros ben. Ond mae rhai o'r carneddau a nodir yn amlygu'r broblem a grybwyllwyd eisoes. Dyna "Carnedd gylchog I'r Go-Or o Llyn y Wrach" er enghraifft. Pwll hwyaid o lyn ydy Llyn y Wrach ac mi wn am y garnedd hon, gerllaw. Does fawr dim byd yno i'w weld o gwbl, mond tomen isel yn y grug. Dim adroddiadau cloddio archaeolegol hyd y gwn i; dim byd ond ei lleoliad ac fel eitem ar restrau fel hyn. Anatiomaros 22:34, 8 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Enwau a ballu

golygu

Dwi'n sylwi fod sawl un o'r carneddau hyn yn gorwedd ar yr un safle neu o leiaf mae nhw'n cael eu rhestru dan yr un enw (e.e. Bryn-Poeth-Uchaf / Bryn-poeth Uchaf [sic gan Cadw!!!]). Un o nodweddion y carneddau hyn ydy eu bod yn ffurfio grwpiau; mae'n beth cyffredin i gael dwy gyda'i gilydd a gwn am enghreifftiau o bedair neu bump o fewn hanner milltir i'w gilydd ar yr un gefnen neu lethr. Yn amlwg mae Cadw yn rhestru pob heneb unigol, fel sy'n iawn, ond gan fod cyn lleied i'w ddweud am y rhan fwya ohonyn nhw dwi ddim yn gweld unrhyw bwynt mewn cael erthyglau unigol am ddwy garnedd ar un safle. Hefyd, fel y gwyddom, mae Rhai-O-Enwau-Cymraeg-Cadw yn chwerthinllyd! Anatiomaros 17:37, 15 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Coords & geogroup

golygu

Table reformatted with streetmap link, coords & geogroup link. Please correct my attempt at Welsh column heading. RobinLeicester 23:01, 18 Chwefror 2012 (UTC) en:user_talk:RobinLeicesterAteb

Absolutely perfect! Diolch Robin! Llywelyn2000 04:57, 19 Chwefror 2012 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Carnedd gylchog".