Sgwrs:Caws pob (Welsh rarebit)
Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Xxglennxx ym mhwnc Enw'r erthygl
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Enw'r erthygl
golyguBeth am ei newid i "caws ar dost" neu "caws pob"? Ai dyma'r enwau Cymraeg, nafe? -- Xxglennxx ★sgwrscyfraniadau★ 00:04, 18 Mehefin 2010 (UTC)
- Pa hwyl? Mae 'na wahaniaeth mawr rhwng y rhain.
- Welsh Rarebit = cymysgedd sy'n cynnwys blawd er mwyn ei dwchu. Fel arfer rhoddir ychydig o fwstad ynddo hefyd. Does yr un enw Cymraeg arno hyd y gwn i. Awgrymaf: Tamad Bach Prin (am hwyl!)
- Caws ar dost: fel mae'n ei ddweud. Fel arfer, mae'r caws yn cael ei bobi / rostio yn gyntaf ar blat metal ac yna ei drosglwyddo i'r tost. Llawer gwell ei flas! Y dull diog ydy rhoi'r caws ar y tost, ond tydy e ddim yn rhostio na chrimpio ac mae ei flas yn salach!
- Caws pob: caws wedi'i bobi; hy heb dost na blawd na dim arall.
Llywelyn2000 14:29, 18 Mehefin 2010 (UTC)
- Iawn. Dwi'n cynnig inni dderbyn un o dy awgrymiadau, oherwydd gwn i ddim lot amdano'r pwnc a dweud y gwir :| -- Xxglennxx ★sgwrscyfraniadau★ 21:05, 18 Mehefin 2010 (UTC)