Sgwrs:Clegyr Fwya

Latest comment: 11 o flynyddoedd yn ôl by Hazard-Bot in topic Dolen wallus

Dim tystiolaeth Anatiomaros, ond tybed a oes cysylltiad gyda'r llwyth Celtaidd hwnnw: Boii? Llywelyn2000 23:09, 30 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Dim syniad. Mae 'na ambell gyfeiriad arall at yr enw 'Boia' ond dim ond un - ym Muchedd Teilo - sy'n sôn am y Boia yma. Coblyn o stori ddifyr hefyd - y rhan orau o Fuchedd Dewi, a'r bucheddau eraill i gyd bron, o bell ffordd (wnes i ddarllen hi eto hanner awr yn ôl, am y tro cynta ers hydoedd). Dwi'n meddwl am sgwennu rhywbeth am y Boia hwn ('Bois bach!') yn y dyfodol agos. Difyr iawn. Nos da i ti gyfaill. Anatiomaros 23:18, 30 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
ON Mae'r elfen bo- yn awgrymu cysylltiad efo gwartheg, sy'n addas i'r cymeriad hefyd (a'r Boii?). Anatiomaros 23:20, 30 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Ydy wir. Arferai fy nhadcu (a oedd o Sir Gaerfyrddin) alw ar y da gyda'r swn: "Tra-bw, tra-bw, tra-bw" drosodd a throsodd nes y deuant i'w godro. (A gis-gis-gis, giso bach" ar yr ieir. Yr un bw eto ac a welir yn bu-arth, bu-gail ac wrth gwrs bu-wch. Mae hyn yn gwneud i ni feddwl fod y bu yma'n wahanol i'r bo arall!
Ol nodyn: y cymeriad ym Muchedd Teilo - oedd cysylltiad ganddo a Ffrainc (Bois y Bois, Charente-Maritime). Pren ydy ystyr y gair Ffrengig ynte? (boisé = coediog). Addas iawn. Gweler hefyd: Sant Boi de Llobregat. O! Na bai Bedwyr yma i ateb... Llywelyn2000 05:46, 1 Mai 2009 (UTC)Ateb

Dolen wallus golygu

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:10, 2 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Clegyr Fwya".