Sgwrs:Cod SYG

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Cymrodor in topic Trefonnen/Yr As Fach

Mae rhai llythrennau acennog yn ymddangos yn anghywir yn y rhestr hon. Bwriadaf cywiro hyn yn fuan mewn diweddariad i'r rhestr a fydd hefyd yn troi'r enwau mewn i ddolennau at eu herthyglau Wicipedia. --Cymrodor (sgwrs) 12:48, 16 Ionawr 2014 (UTC)Ateb

Edrych ymlaen i weld ffrwyth hyn!--Rhyswynne (sgwrs) 14:35, 16 Ionawr 2014 (UTC)Ateb

Mae rhain yn newid o hyd ac mae angen cadw llygad arnynt. Mae Caerdydd, er enghraifft, yn ymgynghori ar hyn o bryd ar cynlluniau i newid cymunedau'r ddinas; http://caerdydd.gov.uk/content.asp?nav=2867,3597,5004&parent_directory_id=2865&id=14085&language=CYM Fe all fod yn delfrydol i ychwanegu colofn arall yn y tabl yn nodi blwyddyn dechrau/diwedd y gymuned, e.e. 1997-2014, 2014-. Yn ôl y SYG, ar 31 Ionawr 2013, roedd 870 cymuned yng Nghymru a 109 cymuned wedi dod i ben yn y ffurf a buont (cyn 1 Ebrill 2012). Oes bosib i ni felly cael 979 o erthyglau am gymunedau gwahanol Cymru? Mae 870 yn y rhestr hon ond mae'n amlwg i mi erbyn hyn nad yw'n hollol gywir. Dylai'r gymuned olaf yn y rhestr bod gyda'r cod W04000979 a'r gymuned honno yw Cilâ Uchaf. Hynny yw, mae'r Cilâ Uchaf sydd yn y rhestr fel W04000598 felly wedi newid mewn rhyw ffordd. Yn ystadegol, gan symyd y ffin, mae un cymuned wedi dod i ben ac un arall wedi cymryd ei le, yn digwydd bod gyda'r un enw. Mae'n ymddangos i mi bod 22 arall yn debyg iddo. Cymrodor (sgwrs) 22:27, 16 Mawrth 2014 (UTC)Ateb

Trefonnen/Yr As Fach golygu

Yr As Fach yw'r enw gan y SYG ar Trefonnen yng Nghasnewydd. Trefonnen yw'r enw ar y gymuned yn ôl Geiriadur yr Academi a dan yr ewn yno mae erthygl y gymuned eisoes yn bodoli yma. Mae'n hawdd dod o hyd i engreifftiau arlein o defnydd yr enw Yr As Fach. Rwyf wedi creu tudalen ail-gyfeirio i Trefonnen ar gyfer unrhwy un sy'n edrych am Yr As Fach. Esiampl amlwg yw hon, ond mae nifer o gymunedau ble mae'r enw yn amrywio ychydig o un ffynhonell i'r llall. Cymrodor (sgwrs) 22:27, 16 Mawrth 2014 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Cod SYG".