Sgwrs:Cymry Llundain

Sylw diweddaraf: 9 o flynyddoedd yn ôl gan Rhyswynne ym mhwnc Llundian Gymreig

Llaethdai

golygu

Rhywbeth i'w gynnwys falle yw llaethdai gan Gymry, (pobl o Geredigion yn bennaf). Dyma oedd gwaith rheini Dai Jones Llanilar, a gafodd ei eni yn y ddinas. Heb ffeindio un eto, ond siawns bod ambell lun i'w gael a'r Flickr sy'n rhydd i'w ddefnyddio.--92.245.247.100 08:58, 27 Medi 2012 (UTC)Ateb

Llwybr Llaethog LLundain (2014) Carreg y Gwalch

Llundian Gymreig

golygu

At eto, ond mi bostiaf y cynnwys yma rhag ofn i dudalen gwe Tafod Tafwys 6 ddiflanu:

  • Eglwys St. Martin within Ludgate, Ludgate Hill ­ sefydlwyd gan Cadwaladr, yn ôl Geoffrey o Went, 7ed canrif.
  • Primrose Hill ­ Cyfarfod cyntaf Gorsedd y Beirdd Ynys Prydain, Mehefin 1792, sefydlwyd gan Iolo Morgannwg (Edward Williams) gyda Edward Jones, William Owen Pughe, a David Samwell.
  • Marx Memorial Library 37 Clerkenwell Green EC1 ­ Adeiladwyd yn 1737 fel Ysgol Gymraeg Elusengarwch ­ symudodd yr ysgol yn 1772 i Gray's Inn Lane, ac wedyn i'r cefn gwlad.

Siopau, busnesion ac ati:

  • Lloyds of London (yn wreiddiol: Ty Coffi Thomas Lloyd, Tower St, 1680au).
  • Ers y canol oesoedd, roedd y porthmyn yn dod â gwartheg i Smithfield a lleoedd eraill o gwmpas Llundain. Fe fyddai teithwyr eraill yn dod gyda nhw; y gweuwragedd, yn gweu sanau ar y daith; merched y gerddi, yn chwilio am waith fel chwynwragedd; ac ati. Ar ben y daith, byddai'r weuwragedd yn gwerthu'r sanau, ac felly dechreuodd y fasnach dillad Gymreig yn Llundain.
  • Fe ddatblygoedd siopau mawr dillad wedyn, o'r 1870au. Felly D.H. Evans (mab ffermwr Lanelli) symudodd ei siop i Oxford Street yn 1879; rhedodd Wm. Pearce Jones i ffwrdd o'i gartref yng Nghaernarfon yn 1867, a phrynodd siop yn Holloway Road, yn ddiweddarach yr enwog "Jones Brothers"; a Peter Jones daeth o Fynwy yn wreiddiol, wedyn Caerfyrddin, Hackney (1868), Bloomsbury, a King's Road Chelsea (1877). (Fe brynodd John Lewis "Jones Bros" wedyn a "Peter Jones"; John Lewis (1836­1928) oedd yn amddifad o Shepton Mallet yn Lloegr)
  • Daeth y fasnach porthmyn i'w ben tua'r 1840au, amser y rheilffyrdd, a throesant rai ohonyn nhw i fasnachu llaeth. Dyma ddechreuad llaethdai Cymraeg yn Llundain. Mae arwydd hysbysebu gwelw yn dal i'w weld yn uchel ar ochr ty^ yn Artillery Row yn y Ddinas: "Fresh milk from the shed".

Roedd cannoedd o laethdai Cymraeg, gyda beudy y tu ôl i'r siop, tua ddiwedd y 19ed ganrif. Mae un neu ddau ohonyn nhw yno o hyd, fel y gellir gweld yn y llyfr ffôn: Lloyd Dairy 42 Amwell St EC1; Jones Dairyman Middx St E1; Jones Dairy WC2. Rheidiol Rooms N1

--Ben Bore (sgwrs) 13:31, 11 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

https://commons.wikimedia.org/wiki/Category:Welsh_chapels_outside_Wales

--Rhyswynne (sgwrs) 20:19, 28 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Cymry Llundain".