Sgwrs:Cymylau
Dwi ddim yn siwr beth yw pwynt hwn - os oes angen rhestru mathau o gymylau, dylai fynd ar dudalen Cwmwl --Dafyddt (sgwrs) 17:09, 19 Mawrth 2018 (UTC)
Bore da. Gan mai prosiect ar gyfer pobol ifanc (ysgolion) yw WiciMon rwyf wedi dangos i'r cyhoedd (a'r byd i gyd) hoel gwaith y pobol ifanc. Wrth weld hyn mae'r disgyblion yn gweld ffrwyth eu llafur ac yn gweld eu bod nhw yn rhan o gymdeithas glos Wicipedia. Mae'r cyhoedd yn gweld hefyd ein bod ni wedi bod yn cyfrannu yn brysur i'r Wici Cymraeg. Dwi'n deall mai WICI yw'r gwyddoniadur yma (Wici yw gwefan sydd yn cael ei rhannu efo pobl eraill) a bod pawb efo'r hawl i sgwennu ar Wicipedia, ond mae'r newidiadau yma ar dudalen DEFNYDDIWR WiciMon. Trydydd rheswm hefyd ydi ein bod ni yn cael ein hariannu ac mae'n bwysig ein bod y sefydliadau hyn yn gweld ein gwaith hefyd. Dwi'n ddiolchgar eich bod wedi gyrru neges i ni ond mae yna ffordd o eirio rhywbeth yn gwrtais ac yn deg. Diolch. Prosiect Wici Mon (sgwrs)