Sgwrs:Cystadleuaeth Wici Henebion

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Defnyddio'r enw Saesneg, neu fathu term? Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 08:55, 10 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb

Yn wreiddiol ro'n i am gynnig rhywbeth fel 'Cofledia'r Wici'r Cofebau' (os yw'n ramadegol gywir ac os oes modd creu cynghanedd?), ond yna sylwais mai'r Saesneg roedd pob iaith arall yn ddefnyddio (cachwrs!). Mantais hyn wrth gwrs ydy parhau gyda un enw/brand penodol ac mae'n reit catchy. Wedi dweud hynny, wyddwn i ddim mai mewn Iseldireg oedd yr enw gwreiddiol. Mae'n brosiect da ta beth ble y gellir tynnu pobl menw na fyddai fel arfer yn cyfrannu ar Wicipedia. Mae cystadlaethau megis photomarathons yn boblogaidd (gweler rhai blynyddol Aberystwyth a Chaerdydd). --Rhyswynne (sgwrs) 14:01, 10 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Ti'n iawn, mae hyd yn oed yr Iseldirwyr yn defnyddio'r Saesneg! Mwy o reswm dros ddefnyddio Cystadleuaeth Rijksmonument, felly! Ar y llaw arall, 'da ni'n derbyn Wikimedia UK! Mi drefnais i tua wythnos yn ol i un o hoelion wyth Comin Creu gael mynediad yn oriau man y bore i Sain Ffagan a bydd yn gwneud hynny yn ystod yr wythnosau nesaf i dynnu lluniau allanol yr adeiladau. Byddai'n wych cael grwp ffotograffeg Caerdydd a Wicipedwyr i ymuno efo fo nes ymlaen. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:25, 10 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Does i ar draws hyn o'r blaen, ar Gomin dwi'n meddwl. Typical o'r Iseldirwyr i ddefnyddio enw Saesneg (ond maen' nhw'n hanner-Saeson beth bynnag!), de! Mae'r wicis Tsieceg a Slofeneg yn ei gyfieithu ac mae'n siwr mae cyfieithiadau sy gan y wicis ieithoedd dwyreiniol fel Arabeg a Siapaneg hefyd, felly does dim rheswm pam na fedrai'r Wici Cymraeg wneud 'run fath hefyd. Dwi'n hoffi cynnig Llywelyn. Anatiomaros (sgwrs) 20:16, 10 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb

Awgrym Marc: Wici Henebion. Yn fy marn i - bril! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:39, 8 Medi 2014 (UTC)Ateb

Dyw e ddim yn cyfleu bod o'n ddigwyddiad (YFMI) - beth am Helfa Henebion?--Rhyswynne (sgwrs) 11:52, 24 Medi 2014 (UTC)Ateb
Drap, rwan dw i'n gweld hwn! Enw gwerth chweil! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:19, 9 Tachwedd 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Cystadleuaeth Wici Henebion".