Sgwrs:Damcaniaeth Sapir-Whorf
Sylw diweddaraf: 17 o flynyddoedd yn ôl gan Llygadebrill
- O ble y daw'r dyfyniad 'The fact of the matter is...'?
- Dwi ddim yn deall y ddadl yn yr adran 'Dadleuon yn erbyn yr Hypothesis Sapir-Whorf'. A all yr awdur ehangu'r adran yma? Hefyd Dadleuon yn erbyn Hypothesis Sapir-Whorf dylai'r pennawd fod.
- Rwyn credu bod angen ymhelaethu ar yr arbrofion sydd wedi eu cynnal yn y maes hwn.
- Beth yw ffynonellau'r erthygl hon?
Lloffiwr 12:53, 25 Mawrth 2007 (UTC)
- Dwi wedi dileu neu addasu llawer o ddarnau angwyddoniadurol yr erthygl. Roedd hi'n edrych fel traethawd yn hytrach nag erthygl. Doeddwn i ddim yn gweld perthnasedd y "dadleuon yn erbyn" a rhoddwyd. Mae yna ddeunydd diddorol yma, mae'n amlwg fod gan yr awdur ffynhonellau perthnasol. Gobeithio gwneith hi/o maddeu i mi am wneud newidiadau mor ddiddostyr, a bwrw ati i wella ac ehangu'r erthygl. Bydd y fersiwn blaenorol i'w weld yn hanes y tudalen os oes angen. Byswn i'n hoff iawn o wybod pwy yw Fasold, De Barnardi a Duranti!--Llygad Ebrill 23:22, 18 Ebrill 2007 (UTC)
Teitl
golyguAwgrymu symyd i Damcaniaeth Sapir-Whorf. --Llygad Ebrill 21:37, 18 Ebrill 2007 (UTC)
- Cytuno. Dwi'n gwybod dim byd o gwbl am y ddamcaniaeth ei hun. Cyfranwr anhysbys yw'r 'awdur' - oes goleuni yn yr erthygl Saesneg, tybed? Anatiomaros 22:00, 18 Ebrill 2007 (UTC)