Sgwrs:Dynfant

Latest comment: 7 o flynyddoedd yn ôl by Dafyddt

Dwi'n sylwi fod dadl wedi bod ynglyn a sillafiad y pentre yma. Mae yna anghysondeb o fewn yr erthygl am mai 'Dyfnant' sy'n cael ei ddefnyddio ymhobman heblaw y teitl. Ond 'Dyfnant' sydd yn cael ei gofnodi yn Archif Melville Richards ac yn cael ei ddefnyddio ar arwyddion ffordd ac ar yr ysgol gynradd leol ac ati. Enw tafodiaethol yw 'Dynfant' a mae'n werth nodi hynny am ei fod wedi dylanwadu ar y saesneg ond 'Dyfnant' yw'n swyddogol. Mae'n debyg i'r ynganiad ar lafar o Gaerfyrddin/Gyfyrddin, Caerdydd/Cyrdydd ac ati. Dyma dystiolaeth o 1865 o sut roedd yr enw yn newid ar lafar. --Dafyddt (sgwrs) 20:21, 26 Mehefin 2016 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Dynfant".