Sgwrs:Eglwyswrw

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Geirdarddiad (sylw cyffredinol)


Geirdarddiad (sylw cyffredinol) golygu

Diolch am hyn, Llywelyn. Dwi'n meddwl basa'n well deud rhwybeth fel "Cleserouw oedd y ffurf (Seisnigiad) a gofnodwyd nôl yn 1292, h.y. eclesserouw, Eglwys Erouw." Mae'r geiriad "Cleserouw oedd y ffurf wreiddiol nôl yn 1292, h.y. eclesserouw, Eglwys Erouw" yn awgrymu mai fel hynny y sillafwyd yr enw gan y Cymry eu hunain, ond dogfennau estroniaith Seisnig (iaith Ffrangeg Normanaidd, Lladin neu Saesneg) yw'r ffynonellau cynnar hyn. Mae'n gamarweiniol felly. Mewn dogfennau fel y Merionethshire Lay Subsidy Rolls er engrhaifft cofnodir enwau personol Cymraeg anhygoel sy'n swnio fel bodau o'r blaned Mawrth (drapia - methu cael hyd iddo ar hyn o bryd!) ond y cwbl mae hynny'n profi ydy mai fel yna y ceisiodd rhyw glercyn di-Gymraeg gofnodi enwau Cymraeg. Anatiomaros 22:32, 6 Hydref 2010 (UTC)Ateb

ON Maddeua i mi am "saethu'r negesydd" eto! Anatteyemaurose of Koneweye Shire 23:16, 6 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Eglwyswrw".