Sgwrs:Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Fflint 1969
Sylw diweddaraf: 2 flynedd yn ôl gan Craigysgafn ym mhwnc Cywiriad i'r Teitl ac unrhyw droeon eraill y digwydd 'y Fflint'
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Daeth Carlo Winsor i'r steddfod 'na. Bianchi-Bihan (sgwrs) 19:02, 20 Ionawr 2020 (UTC)
Cywiriad i'r Teitl ac unrhyw droeon eraill y digwydd 'y Fflint'
golyguMae angen cywiro'r fannod fach - Y Fflint' yw'r sillafiad cywir (fel y cadarnheir gan y rhestrau enwau lleoedd swyddogol ee Gazetteer of Welsh Placenames (Prif Bangor) cyfeirnod SJ2472
Ges i fy nghodi yn Y Fflint os yw hynny'n berthnasol! ArEichMarc (sgwrs) 18:49, 14 Mehefin 2022 (UTC)
- @ArEichMarc: Rhaid imi anghytuno. Y mae llawer o enwau lleoedd yng Nghymru sy'n cynnwys y fannod. Nid yw "Y Fflint" yn eithriad i'r rheol. Pan saif yr enw ar ei ben ei hun – mewn rhestr, mewn pennod, ayyb - "Y Fflint" yw'r ffurf gywir. Ond mewn brawddeg neu mewn ymadrodd, bydd "y Fflint" yn gywir. Gweler Rhiannon Ifans, Y Golygiadur: Llawlyfr i Awduron a Golygyddion (2006), tt. 317–18. "Pan ddigwydd yr enw lle yn rhan o gyfeiriad, neu mewn safle arall ar ei ben ei hun, defnyddir priflythyren i'r fannod. Os yw'r enw lle yn rhan o frawddeg, ni roir priflythyren i'r fannod." --Craigysgafn (sgwrs) 21:45, 14 Mehefin 2022 (UTC)
- O.N. Roedd yr hyn a ysgrifennais uchod yn gywir. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes erthyglau yn Wicipedia lle nad yw'r rheol honno'n cael ei dilyn yn iawn! Bydd rhaid imi wneud gwiriad trylwyr cyn bo hir. --Craigysgafn (sgwrs) 22:05, 14 Mehefin 2022 (UTC)