Sgwrs:Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig
Sylw diweddaraf: 2 flynedd yn ôl gan Craigysgafn
Elisabeth II o'r Deyrnas Unedig?
Elisabeth I Alban... 146.176.2.17
- Well, the Queen can choose any regnal name she wants... but see here en:MacCormick v. Lord Advocate and here en:List of regnal numerals of future British monarchs. Paul-L 19:19, 12 Mai 2007 (UTC)
Mae'r erthygl hon yn warthus. Tydi hi ddim yn barchus i alw'r Frenhines yn "Mrs Windsor" o gwbwl - mae'r erthygl hon yn ogwydd. Yn ogystwl a'r ffaith anghywir hwn, Iarlles Strathmore a Kinghorne oedd ein Nain (nid Duges fel a nodir yma). Mae'r holl erthygl yn siomedig iawn i ddweud y gwir. Pan da chi'n gymharu'r erthygl i erthyglau eraill sy'n debyg, mae'n hollol warthus fel da ni fel cymry fili gweld tu allan o'n ffiniau ein hun. Dwi wedi edrych ar erthyglon eraill yn y gymraeg sydd yn ymweud a bobol enwog yn Lloegr a mae'n ddrwg gen i ddweud mae'r erthyglau yn debyg ac yn wneud i ni edrych yn hiliol. Dwi'n eitha grac amdani i fod yn hollol onest.
- Diolch am rannu eich barn. (Er ei bod yn ddefnyddiol i chi lofnodi'ch sylwadau.) Fel mae'n digwydd, rydw i hefyd yn meddwl bod yr erthygl hon yn siomedig ac angen ei gwella. Ond a yw'n warthus neu'n hiliol? Dydw i ddim yn cytuno â hynny. Mae'r enw "Mrs Windsor" yn adroddiad o'r hyn roedd rhai pobl yn ei ddweud - efallai ei fod yn blentynnaidd ac yn anghwrtais, ond mae teimladau cryfion ynghylch pwnc y frenhiniaeth. Nid yw'r erthygl ei hun yn galw enwau gwirion ar y Frenhines. Ar y llaw arall, os oes gwallau ffeithiol, dylid eu cywiro. Os gwelwch chi rywbeth sydd o'i le, cywirwch ef, os gwelwch yn dda. Mae angen arnon ni pob cymorth y gallwn ni ei gael! --Craigysgafn (sgwrs) 20:11, 6 Awst 2022 (UTC)