Sgwrs:England First Party

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Rhodri77 in topic Gwrthdroi'r golygiad

"England First Party" yn Saesneg; onid "Plaid Lloegr yn Gyntaf" ddylai hyn fod? Neu efallai ddefnyddio'r enw Saesneg - alla i ddim credu fod ganddyn nhw gyfeiithiad Cymraeg swyddogol. Rhion 06:49, 20 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Mm. Bosib wir, gan nad oes collnod, mae'n dibynnu ar yr ynganiad! Ai 'England First' ydy'r ynganiad / pwyslais, ynteu - 'First Party'? Llywelyn2000 07:01, 20 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Yn bendant, dylid cadw'r enw Saeseng - dw i'n cymryd (na, mawr obeithio) na fyddent yn sefyll mewn seddi yng Nghymru!--Ben Bore 09:48, 20 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Dywed eto gyfaill. Ai cynnig wyt ti mai'r enw Saesneg yn unig a ddylem ei ddefnyddio? Llywelyn2000 11:15, 20 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Sori, doeddwn i ddim yn glir. Ie, defnyddio'r enw Saesneg yn unig oeddwn i'n feddwl.--Ben Bore 12:36, 20 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Ie, dwi'n cytuno a thi. Mae'n well sticio at y gwreiddiol gydag ambell beth. Roeddwn i'n teimlo hyn pan ddarllenais y cyfieithiad Cymraeg am yr IRA: llond ceg, braidd. Beth pe tawn ni'n aros am dridia, bedwar i weld oes yna wrthwynebiad? Llywelyn2000 12:56, 20 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Fi sy'n ei chyfieithu hi [cyfrannwr IP]

Dwi newydd gweld hyn rwan ac mae rhaid i mi gytuno â'r sylwadau uchod. Dydy'r cyfieithiad 'Plaid Gyntaf Lloegr' ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl, oni bai mai hi oedd y blaid gyntaf yn Lloegr, yn hanesyddol ayyb, ac yn amlwg nid dyna'r ystyr. Pwysleisio 'England First', h.y. 'Lloegr yn gyntaf' yw nod y blaid, fel sy'n amlwg: dydy '[c]yntaf' ddim yn ansoddair ar 'blaid'. Mae'r un peth yn wir am y cyfieithiad 'y Blaid Genedlaetholgar Wen' yn yr ethygl; nid y blaid sy'n wyn ei lliw ond gwleidyddiaeth hiliol y blaid! Rhaid newid y cyfieithiad neu ddefnyddio'r enw Saesneg yn yr achos yma (mae ambell eithriad i bob rheol). Anatiomaros 22:20, 2 Mai 2009 (UTC)Ateb

Ond dw i moyn cyfieithu erthyglion yn Gymraeg. Mae erthygl am Blaid "Cymru" yn Saesneg i Seision, pam nid yr un i Blaid Gyntaf Lloegr?

Rydym ni'n croesawu erthyglau yn Gymraeg ar bob pwnc, wrth gwrs. Nid dyna yw'r broblem ond y cyfieithiad o enw'r blaid. Fel sy'n cael ei awgrymu uchod, yr ystyr - ac felly y cyfieithiad cywir hefyd - yw 'Plaid Lloegr yn Gyntaf'. Rhy hwyr heno i mi drafod hyn ymhellach, ond mewn gwirionedd does 'na ddim llawer i'w drafod: yr unig gwestiwn yw dewis rhwng 'Plaid Lloegr yn Gyntaf' ac 'England First Party'. (Gyda llaw, i roi llofnod rhowch pedwar tild fel hyn ~~~~ ar ddiwedd eich neges). Anatiomaros 23:24, 2 Mai 2009 (UTC)Ateb
Dwi wedi defnyddio'r geiriad gwreiddiol fel teitl i'r erthygl. Ond mae angen sefydlu rhyw fath o ganllaw na wneir hynny dim ond pan fo'r geiriad Cymraeg yn anodd ei ddeall, yn aneglur. Llywelyn2000 05:32, 3 Mai 2009 (UTC)Ateb

Gwrthdroi'r golygiad golygu

Dw i newydd wrthdroi'r golygiad a oedd wedi dileu'r sylwad fod y blaid eisiau cael gwared o'r BBC am ei fod yn wrth-Seisnig. Dw i newydd edrych ar eu maniffesto ar eu gwefan ac mae'n bendant yn un o'u polisïau. Rhodri77 19:28, 25 Medi 2009 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "England First Party".