England First Party
Plaid genedlaetholgar Seisnig fechan yw'r England First Party (EFP) (Plaid Lloegr yn Gyntaf). Roedd ganddi ddau gynghorydd ar Gyngor Blackburn gyda Darwen rhwng 2006 a 2007. Mae'n cael ei chyfrif yn blaid asgell dde eithafol ac mae rhai yn ei disgrifio fel plaid neo-Natsïaidd.
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | English nationalism |
Daeth i ben | 14 Mehefin 2012 |
Dechrau/Sefydlu | 2 Medi 2003 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://efp.org.uk/ |
Fe'i ffurfiwyd yn 2004 gan Mark Cotterill a fu'n sylfaenydd ac ymgeisydd Ffrindiau Americanaidd Plaid Genedlaethol Prydain (BNP). Beth bynnag, dechreuodd ef anghytuno â Phlaid Genedlaethol Prydain yn wleidyddiol, ac felly sefydlodd EFP ar ôl gadael Plaid y Cenedlaetholwyr Gwyn (White Nationalist Party).[angen ffynhonnell]
Mae Plaid Lloegr yn Gyntaf wedi beirniadu cenedlaetholdeb Prydeinig ac yn cefnogi cenedlaetholdeb Seisnig. Roedd y mwyafrif o'u haelodau yn gynaelodau o Blaid Genedlaethol Prydain, fel ei hymgeisydd, Mark Cotterill.[angen ffynhonnell]
Mae Plaid Lloegr yn Gyntaf hefyd yn credu mai goddefgarwch tuag at bobl hoyw sy'n gyfrifol fod yr afiechyd AIDS yn lledu.[1]
Polisïau
golyguMae polisïau'r blaid ar gyfer Lloegr yn cynnwys:[2]
- Atal mewnfudo a chychwyn rhaglen i anfon pob "mewnfudwr an-Ewropeaidd" yn ôl i'w gwledydd gwreiddiol.
- Sefydlu Lloegr annibynnol gyda'i senedd ei hun "o fewn Ynysoedd Prydeinig ffederal".
- Adfer y gosb eithaf am bobl a geir yn euog o lofruddio, pedoffilia a theyrnfradwriaeth.
- Adfer cosb corfforol am droseddau fel lladrad tŷ, troseddau rhywiol a delio mewn cyffuriau.
- Lloegr i dynnu allan o Undeb Ewrop a bod yn annibynnol.
- Cael gwared ar bob "ffydd a chrefydd an-Ewropeaidd ynghyd â chael gwared o'u holl mosgiau a themlau".
- Diddymu'r BBC a chyrff eraill am ei fod yn "rhy ryddfrydig".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Liberalism Is Evil And Here Is The Proof Archifwyd 2008-10-26 yn y Peiriant Wayback Gwefan EFP. Adalwyd 04-05-2009
- ↑ (Saesneg) Maniffesto byr yr EFP Archifwyd 2011-01-25 yn y Peiriant Wayback
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2006-06-22 yn y Peiriant Wayback