Sgwrs:Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Thaf in topic Tipyn o ddryswch yma

Tipyn o ddryswch yma golygu

Cyfraniad i'w groesawu, wrth gwrs, ond mae'r erthygl yn aneglur. "Mae'r Ffederasiwn yn cynnwys amryw o Glybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) ar draws Cymru a Lloegr.... Mae wedi tyfu i gynnwys dros 700 o glybiau yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon, a nifer mwy dramor. Nid yw'r ffederasiwn yn cynnwys clybiau yn yr Alban na Gogledd Iwerddon." Yn nes ymlaen: "...saith is-ranbarth o Gymru a Lloegr, ac ar y cyd maen't yn ffurfio Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc." Felly, sut mae clybiau (Gweriniaeth) Iwerddon yn ffitio i mewn i'r drefn yma, heb sôn am y "nifer mwy tramor"? Mae hyn yn aneglur, a deud y lleiaf. Mae'n cyfeirio hefyd at y "saith is-ranbarth o Gymru a Lloegr", ond mewn gwirionedd mae hynny'n golygu fod Lloegr wedi'i rhannu yn chwe rhanbarth tra bod gan "rhanbarth" Cymru (typical!) ei ffederasiwn cenedlaethol ei hun o fewn y FfCCFfI, sef Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. Mae'r erthygl fel y mae yn ddigon i ddrysu rhywun yn lân. Anatiomaros 16:58, 22 Mehefin 2009 (UTC)Ateb

Roeddwn i'n drysu wrth drio cyfieithu'r erthgl felly dwi'm yn synnu fod pawb arall hefyd! Wedi tynnu'r pwt "dramor" allan ar ol edrych ar eu gwefan nhw i gadarnhau. Cytuno am y "rhanbarthau" hefyd, ond doeddwn i ddim yn gallu meddwl am air gwell i ddisgrifio nhw. Fuasai "Ardal" yn well? Thaf 18:16, 22 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
Diolch am yr ymateb, Thaf. Dwi'n meddwl basa 'ardal' yn well, efallai, ond dwi dal heb ddeall lle mae Gweriniaeth Iwerddon yn ffitio i mewn... Anatiomaros 19:31, 22 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
Ah ie, dryswch rhwng 'Y DU' a 'Phrydain' gan bwybynnag sgwennodd y gwreiddiol budd debyg. Cymryd pethau'n ganiataol a peidio darllen yn gywir! Mi dynnai o o'na gan nad oedd cyfeiriad ato ar y wefan swyddogol. Thaf 07:37, 23 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc".