Agor y brif ddewislen

Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc

Y Ffermwyr Ieuanc (enw llawn: Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc) yw'r gymdeithas wledig mwyaf o'i bath drwy Ewrop. Mae'r Ffederasiwn yn cynnwys amryw o Glybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) ar hyd a lled Cymru a Lloegr, gan helpu i gefnogi pobl ifanc ym myd amaeth a chefn gwlad. Tyfodd i gynnwys 659 o glybiau drwy Brydain. Nid oes gan y ffederasiwn glybiau yn yr Alban na Gogledd Iwerddon.[1]

Mae pencadlys Cymru yn Llanelwedd a chynhelir Eisteddfodau sirol a chenedlaethol unwaith y flwyddyn.

HanesGolygu

Y clwb hynaf sy'n dal i gyfarfod yw Clwb Ffermwyr Ifanc Swydd Buckingham, a sefydlwyd ym 1923.

StrwythrGolygu

Mae'r aelodaeth yn cynnwys tua 20,000 o bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed. Yn wahanol i'r mwyafrif o gymdeithasau ieuenctid, caiff y clybiau eu rhedeg gan yr aelodau, ar gyfer yr aelodau. Caiff y clybiau eu grwpio mewn 51 ffederasiwn lleol, yn dilyn ffiniau siroedd fel rheol. Cânt eu grwpio ymhellach yn saith is-ranbarth o Gymru a Lloegr, ac ar y cyd maen't yn ffurfio Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc.

Mae mudiad y ffermwyr ifanc yn cynnwys pobl sy'n byw a gweithio yng nghefn gwlad, neu sydd â diddordeb yng nghefn gwlad, sy'n ymuno â'i gilydd i ffurfio clwb "agored", lle gallant ddilyn eu diddordebau mewn rhaglen o weithgareddau sydd wedi ei gyfarwyddo ganddyn nhw eu hunain. Mae'r gweithgareddau yn cwmpasu amaethyddiaeth, chwaraeon, gwirfoddoli yn y gymuned, yr amgylchedd a gweithgareddau cymdeithasol.

Ceir sawl uned fferm addysgol yng Ngymru a Lloegr hefyd, sy'n aml yn rhedeg Clwb Ffermwyr Ifanc yr "Ysgol".

Is-ffederasiynau rhanbartholGolygu

Mae pob clwb yn perthyn i ffederasiwn rhanbarthol, sy'n gyfrifol am drefnu gweithgarethau'r rhanbarth rhwng y clybiau, a gweinyddu gweithgareddau cenedlaethol.

Rhanbarthau'r ffederasiynau:

Cenedlaethol (Cymru a Lloegr)Golygu

Mae pob CFfI a ffederasiwn rhanbarthol yn perthyn i Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc, sy'n gyfrifol am gadarnhau fod y rhaglenni o weithgareddau yn cynnwys elfen o addysg cymdeithasol personol, sy'n cynnig sialens i'w aelodau.

Lleolir y Swyddfa Genedlaethol yn Stoneleigh Park, Swydd Warwick.

Yn 2012 pleidleisiodd aelodau clybiau Ynys Môn ac Eryri yng Nghymru dros dorri'n rhydd oddi wrth Lloegr. Dadl aelodau'r clybiau oedd nad oeddynt yn cael gwerth eu harian o’r berthynas â Lloegr, ac y bydden nhw’n elwa mwy o dalu aelodaeth yn syth i Gymru. Dan y drefn bresennol mae holl arian aelodaeth Cymru yn cael ei dalu’n syth i bencadlys y mudiad yn Stoneleigh, yn Lloegr, cyn i 50% o’r arian gael ei ddychwelyd i swyddfa Cymru yn Llanelwedd.[2]

Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru 2012 a honiadau o hiliaethGolygu

Cafodd Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru 2012 ei ffrydio'n fyw ar wefan S4C.[3] Yn dilyn darlledu uchafbwyntiau o'r eisteddfod ar sianel deledu S4C bu rhai cwynion am gynnwys hiliol honedig rhai o'r sgetsys, a phenderfynodd S4C dynnu'r rhaglen oddi ar ei gwefan CLIC. Cafwyd hefyd nifer yn amddiffyn yr aelodau.[4]

Dolenni allanolGolygu

Cymru a Lloegr

Siroedd CymruGolygu

Mae 12 ffederasiwn sirol yn ffederasiwn Cymru, sy'n cynnwys 162 o glybiau.[5]

ffynonellauGolygu