Sgwrs:Fietnam

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Xxglennxx in topic Enw'r erthygl

Nodyn amheus golygu

Help! Pam fod nodyn amheus wedi ymddangos ar ben ei hun bach? --Llygad Ebrill 16:58, 31 Hydref 2006 (UTC)Ateb

Dwi ddim yn deall hynny chwaith. Does dim sôn amdano ar y dudalen arbennig sy'n rhestru erthyglau amheus. Od, â deud y lleia! Anatiomaros 17:23, 31 Hydref 2006 (UTC)Ateb
Roedd e'n oherwydd bod nodyn amheus ar Nodyn:Link FA. Mae Tigershrike wedi trwsio hi nawr. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:40, 31 Hydref 2006 (UTC)Ateb

Enw'r erthygl golygu

A yw "Fiet Nam" yr enw Cymraeg, safonol ar y wlad? Mae Cysgeir yn awgrymu "Fietnam" ynghyd â'r Bwrdd, y BBC, a'r Termiadur. Mae Geiriadur yn awgrymu "Fiet-nam", sydd yn reit debyg i'r enghreifftiau uchod. Os nad oes dim gwrthwynebiad, hoffwn newid enw'r erthygl i "Fietnam." -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:18, 6 Awst 2011 (UTC)Ateb

"Fiet-nam" sydd gan Geiriadur yr Academi. Cytuno i symud i "Fietnam". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 23:23, 6 Awst 2011 (UTC)Ateb
Arhosem ychydig i bawb dweud eu dweud, ac wedyn symudem ni'r erthygl :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:33, 6 Awst 2011 (UTC)Ateb
Ydych chi wedi ystyried: hyn? Mae yma sawl dewis a gwelaf fod sawl trafodaeth wedi bod ar enwau gwledydd tebyg i hwn. John Jones 22:09, 8 Awst 2011 (UTC)Ateb
Ydw, dwi wedi'i weld. Mae mwy o enghreifftiau o "Fietnam" na "Fiet Nam," felly rydym yn mynd am yr hyn sy'n fwyaf poblogaidd. Rydym, fel Wici, hefyd yn dilyn enwau'r Bwrdd yn hytrach nag unrhyw beth arall, fel rheol gyffredin. Dwi wedi meddwl am yr anghenraid o newid erthyglau eraill, ac fe ddaw yn fuan. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:51, 8 Awst 2011 (UTC)Ateb
Diolch. Mi rydw i wedi dechrau newid yr erthyglau ond mae'n glamp o job. Bydd angen newid yr holl erthyglau sy'n cynnwys Fiet Cong hefyd i fod yn gyson, cofiwch. John Jones 05:17, 9 Awst 2011 (UTC)Ateb
Dwi ddim yn siŵr am Fiet Cong, gan mai "Viet Cong" yn Saesneg ydyw, a Việt cộng yn Fietnameg hefyd, felly efallai mae'n iawn inni gadw dau air yn y Gymraeg? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:28, 9 Awst 2011 (UTC)Ateb
Rwyf wedi newid yr holl gategorïau. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:54, 9 Awst 2011 (UTC)Ateb
Gwych, Adam! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:05, 10 Awst 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Fietnam".