Sgwrs:Gofod Baire
Sylw diweddaraf: 17 o flynyddoedd yn ôl gan Lloffiwr
Fi greodd hwn, roedd rhywbeth wedi f'allgofnodi wrth i mi sgwennu. Mae'n tarddu o'r erthygl en:Baire category theorem yn ogystal a'r un a rhyngwicid iddi. Dwi wedi defnyddio tew/tenau yn hytrach na first/second category, am fod y termau arferol saesneg yn annefnyddiol braidd (O.n. ceir meagre/non-meagre fel enwau amgen yn saesneg) --Llygad Ebrill 17:47, 25 Mai 2007 (UTC)
- Mae'r Termiadur yn cynnig caefa am closure. Ni ches fawr o help arall gan y Termiadur na Geiriadur yr Academi heblaw bod Geiriadur yr Academi yn cynnig 'prin', 'annigonol', 'tenau' a 'pitw' am 'meagre'. Byddai 'pitw' yn siwr o gyfleu'r ystyr 'meagre' yn iawn fan hyn. Ond beth fyddai non-meagre? Mae'n wir bod 'tew' yn cyfleu'r gwrthwyneb i 'tenau' yn dda. Ydy 'amhitw' yn bosibilrwydd? 'Digon, digonedd, llond gwlad, helaethrwydd, llawnder, toreth' yw'r cynigion am 'plenty'.
- Rwyn credu bod gwell osgoi 'mydradwy' oherwydd mai'r ystyr mydr ar gân neu mewn barddoniaeth (patrwm y llinellau) yr wy'n cysylltu â hwn. Beth am 'metradwy'?
- Beth am 'Gwireb y Dewis' am 'Axiom of Choice'?
- Mae'r cynigion eraill yn taro'n dda, ond cofiwch nad wy'n fathemategydd, ac felly yn ansicr a wyf wedi deall y termau'n drwyadl. Lloffiwr 18:32, 7 Hydref 2007 (UTC)