Sgwrs:Gorsedd y Beirdd

Latest comment: 4 o flynyddoedd yn ôl by Dafyddt in topic Enw adnabyddus

Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion a phwysigion... golygu

Efallai dylid meddwl am air mwy niwtral na 'pwysigion', neu ydw i'n bod yn rhy bedantig?--Ben Bore 15:57, 3 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Rwyt ti'n iawn, ar ôl ystyried. Oes gen ti gynnig? Anatiomaros 16:33, 3 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Dwi'n meddwl fod angen rhyw ddisgrifiad fel 'pobl nodedig'. Hynny yw, mae'n bosib dod yn aelod o'r orsedd drwy arholiadau, neu drwy wasanaethu yr Eisteddfod dros gyfnod, neu cael eich dewis gan Lys yr Eisteddfod 'er anhrhydedd'. Mae yr Eisteddfod yn galw'r bobl yma yn 'artistiaid' ond mae yna fwy iddo na hynny. Mae pobl gyffredin ac enwog yn cael eu henwebu, yn ogystal a pobl o fyd addysg, gwleidyddiaeth, y celfyddydau ac eraill. Dafyddt 20:10, 4 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Gwneiff hynny'n iawn dwi'n meddwl. Dwi wedi newid y cyflwyniad i ymgorffori eich awgrym. Diolch am y cywiriadau iaith hefyd! Anatiomaros 22:53, 4 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Enw adnabyddus golygu

Er fod dadl dros newid yr enw, mae esboniad Emyr Lewis yn eithaf clir (gweler y ffynhonnell yn yr erthygl). Felly rwy wedi ychwanegu esboniad o'r enwau ac yn argymhell newid enw'r dudalen i "Gorsedd Cymru". Efallai fod "Gorsedd y Beirdd" yn parhau i fod yn fwy adnabyddus ar lafar ond mae dadl hefyd fod "Yr Orsedd" yn fwy cyfarwydd fyth. Fy awgrym yw defnyddio yr enw sydd yn cael ei arddel yn swyddogol (er byddai'n ddefnyddiol gallu cysylltu i ffynhonnell mwy swyddogol i'r cyhoeddiad os daw hi rhywdro ar wefan yr Orsedd). --Dafyddt (sgwrs) 20:33, 13 Awst 2019 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Gorsedd y Beirdd".