Sgwrs:Israel
Teitl adran
golyguMae teitl yr adran "Câr dy gymydog" yn gwbl anaddas. Sais Neis 12:44, 4 Medi 2010 (UTC)
- Cytuno. Croeso i ti newid o i rywbeth mwy niwtral ('Israel a'i chymdogion' efallai?). Anatiomaros 00:19, 5 Medi 2010 (UTC)
- Wedi newid i "Cysylltiadau tramor". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 15:03, 6 Ionawr 2012 (UTC)
Mae gan rywun agenda
golygu"Ers ei chreu mae Israel wedi brwydro dros ei chornel gan ymosod dro ar ôl tro ar ei chymdogion yn yr hyn a elwir yn Wrthdaro Arabaidd-Israelaidd"
Dyw hyn ddim yn ffeithiol gywir. Mae gwledydd cyfagos wedi cychwyn rhyfeloedd yn erbyn Israel. Nid wy'n gwadu bod Israel heb, oherwydd mae hi, ond nid yw'n un-ochrog fel yr awgrymir yma. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 2.24.96.56 (sgwrs • cyfraniadau) 02:29, 13 Gorffennaf 2014
Newid enw
golyguAr sail rhesymeg Llywelyn2000 ar y dudalen hon https://cy.wikipedia.org/wiki/Sgwrs:Y_Fyddin_Brydeinig, cynigiaf ein bod yn ailenwi yr erthygl hon yn 'Palesteina' am mai dyna yw gwir enw y wlad hon a orchfygwyd yn anghyfreithlon er mwyn creu gwladwriaeth Israel. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 80.234.166.158 (sgwrs • cyfraniadau) 10:05, 20 Mawrth 2016