Sgwrs:Kelvin
Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Huwwaters
- Dyma'r tymheredd ble nad oes unrhyw egni dirgryniol (gwres) yn bodoli yn y gronynnau.
Dydy hon ddim yn hollol cywir - gwelwch en:Zero-point energy. Alan 23:43, 30 Hydref 2008 (UTC)
- Dwi wedi ychwanegu "braidd" am rwan (rhy hwyr yn y dydd i wneud pethau technegol llawn o dermau anodd!). Anatiomaros 23:50, 30 Hydref 2008 (UTC)
- Diolch. Ar sero absoliwt, mae pob gronyn yn ei "ground state". Dwn i ddim beth fasai hyn yn Gymraeg. "Ansawdd llawr" efallai? Dydy'r ynni ddim yn sero, ond yr ynni isaf ar gael gan y system. Alan 00:03, 31 Hydref 2008 (UTC)
- "Ansawdd gwaelodol" efallai? Mae hynny'n gnweud synnwyr, dwi'n meddwl, ond rhaid bod 'na derm technegol safonol amdano rhywle? Anatiomaros 00:10, 31 Hydref 2008 (UTC)
- Dyma pam imi ddadlau ychydig yn ôl dros (ar adegau prin) roi'r geiryn Saesneg mewn italic a chromfachau ar ol y term newydd a fathwyd gan y sgwennwr. Am ryw reswm, rydym yn derbyn hyn gydag enwau llefydd (gweler: Mae Caergrawnt (Saesneg: Cambridge) yn hen ddinas... er enghraifft) , ond pan mae na air gwyddonol, newydd, mae'n hanfodol fod y darllenydd yn cael yr un Saesneg neu mi wneith droi i Wiki Sa i ddarllen am y pwnc, a mi gollwn ni ddarllenwyr!
- Dwi'n cytuno, yn achos termau diarth anghyffredin (ond does dim angen physics i esbonio ffiseg ac ati, wrth reswm). Cynnig yn unig oedd "ansawdd gwaelodol" - oes 'na gyfieithiad safonol yng Ngeiriadur yr Academi? Efallai buasai rhestr o dermau gwyddoniaeth Cymraeg, gyda'r cyfystyron Saesneg a/neu Lladin yn syniad da, ond mae'n gofyn tipyn o waith i'w wneud yn drwyadl. Anatiomaros 18:16, 31 Hydref 2008 (UTC)
- Nagoes, dim siw na miw ohono. 'Cyflwr gwaelodol' efallai. Ond cyflwr / ansawdd beth? 'Y sefyllfa waelodol'? Neu 'y pwynt gwaelodol'? Rhain ychydig mwy diriaethol / concrit. Dwn i'm wir! Mae 'na dermau gwyddonol ar gael. Mae gen i gopi yn rhywle ond mae'n hen fel pechod. Sgwn i ydy o wedi'i ddiweddaru? Mi dria i ddarganfod.
- Llywelyn2000 21:12, 31 Hydref 2008 (UTC)
- Yn ôl Geiriadur yr Academi, "y cyflwr isaf" sy'n cael ei ddefnyddio am "ground state" ym maes Ffiseg.
- Huwwaters 18:35, 03 Medi 2010 (UTC)
- Diolch am drio, beth bynnag. Mae 'na restr weddol ddefnyddiol fa'ma, ond heb gynnwys pethau gwirioneddol arbenigol (fel "ground state"!). Fel rwyt ti'n deud, mae 'na eiriadur termau gwyddoniaeth (GPC dwi'n meddwl), ond os cofiaf yn iawn fe gyhoeddwyd yn y 1908au ac felly dydy o ddim yn cynnwys termau diweddar (doedd o ddim mor dda â hynny, chwaith, iawn i'r chweched dosbarth efallai, ond dyna i gyd). I ddod yn ôl at y term dan sylw, dwi'n meddwl dy fod yn iawn a bod "cyflwr gwaelodol" yn well nag "ansawdd...". Y broblem ydy fod angen gwyddonydd sy'n deall y termau gwreiddiol yn iawn a dim ond amatur dwi, ar y gorau. (Dwi wedi cael yr un broblem wrth geisio addasu erthyglau ar seryddiaeth o'r wici Saesneg). Y cwbl medrem ni wneud am rwan ydy rhoi cynnig arni a defnyddio'r nodyn {{bathu termau}} ar waelod yr erthygl i nodi'r termau ansicr. Anatiomaros 21:38, 31 Hydref 2008 (UTC)