Sgwrs:Llanelli Wledig
Latest comment: 16 o flynyddoedd yn ôl by Rhion
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Does dim cymuned Llanelli Wledig ar gael. Rwyf wedi creu tudalen i Gyngor Llanelli Wledig sydd rwyn tybio yr oedd crewr y dudalen yn geisio wneud. Felly mae angen dileu'r dudalen hon Dyfrig 00:41, 3 Mawrth 2008 (UTC)
- Mae Gwyddoniadur Cymru yn dweud bod Llanelli Wledig yn gymuned. Mae safle we Cyngor Gwledig Llanelli ei hun yn dweud "Mae Cyngor Gwledig Llanelli yn un o naw cyngor cymuned yn ardal Llanelli" - os yw'n gyngor cymuned, mae'r ardal a reolir gan y cyngor hwnnw yn gymuned, os nad yw'n rhywbeth hollol unigryw yng Nghymru. Dydi'r ffaith nad yw'r cyngor yn dewis defnyddio'r gair "cymuned" yn ei deitl Cymraeg yn profi dim. Does dim *pentref* Llanelli Wledig wrth gwrs, a dydi'r erthygl ddim yn dweud bod, ac mae dwsinau o esiamplau lle nad yw enw'r gymuned yn dod o enw pentref. Rhion 06:39, 3 Mawrth 2008 (UTC)