Cymuned (llywodraeth leol)
uned weinyddol yn yr haen isaf o lywodraeth leol mewn sawl gwladwriaeth gan gynnwys Cymru
- Mae hon yn erthygl ar yr uned llywodraeth leol. Gweler hefyd cymuned a Cymuned (gwahaniaethu).
Uned o lywodraeth leol a geir, dan enwau amrywiol, mewn sawl gwlad yw cymuned. Mewn rhai gwledydd dyma'r uned leiaf o lywodraeth leol, ond nid yw cymuned o reidrwydd yn fychan o ran poblogaeth; gall grŵp o bentrefi neu dref fawr fod yn gymuned yn Ffrainc, er enghraifft.