Sgwrs:Llenyddiaeth Gymraeg

Latest comment: 17 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Cychwyn i'r erthygl

Cychwyn i'r erthygl golygu

Dwi wedi gwneud dechrau ar y dudalen "llenyddiaeth Gymraeg" gyda thipyn ar y farddoniaeth gynnar. Yn anffodus, yr unig ffynhonnell sydd gen i ar y pwnc yw Encarta, ond darganfyddais tudalennau defnyddiol iawn ar wefan y BBC hefyd. Gobeithio bydd eraill sy'n fwy gwybodus na fi yn cyfrannu at yr erthygl. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:15, 30 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb

Dyma rywbeth sydd mawr ei angen. Dwi wedi meddwl am gychwyn arni fy hun ond mae'n bwnc anferth! Hyd y gwelaf i mae angen 2 dudalen - un yn trafod y mathau o lenyddiaeth sydd yn y Gymraeg fesul pwnc, sef "barddoniaeth" (caeth a rhydd), "rhyddiaith", "y Nofel Gymraeg", "yr emyn" etc., a'r llall yn mynd ati i ddisgrifio Hanes Llenyddiaeth Gymraeg fesul cyfnod. Dwi'n barod i ddechrau ar yr ail fy hun rywbryd yn y dyfodol agos. Basai'n braf cael ymateb cyfrannwyr eraill i'r syniad (rhywbeth tebyf i'r cychwyn sydd gennym ar Hanes Cymru sydd gennyf mewn golwg - dim ond rhyw paragraff neu ddau ar bob cyfnod gyda dolen i brif erthyglau a chymaint o enwau perthnasol â phosibl yn cael eu rhoi i mewn). Anatiomaros 17:41, 30 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Llenyddiaeth Gymraeg".