Sgwrs:Llundain Fawr

Sylw diweddaraf: 10 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000

Llundain FWYAF? Ydy hwn yn iawn? Mae hwn yn meddwl 'Greatest London' ac nid 'Greater' felly mae'n gamarweiniol. I fi, "Llundain Fawr" yw'r enw amlwg a chywir.

Dw i yn ansicr iawn o hyn. Dw i ddim yn ryw orhoff o un o'r ddau ffurf. Mae'n swnio'n Anghymreig i fi. Sylwer mai ffurf Gymraeg Upper Cwm Twrch yw Cwmtwrch Uchaf a Lower Tumbl yn Tymbl Isaf. Nid fy mod yn dadalu dros Llundain Fwyaf Dyfrig 11:59, 23 Ebrill 2006 (UTC)Ateb
Llundain Fawr fuaswn i'n ddweud. Yn ôl Geiriadur yr Academi, Llundain Fawr yw hi. Ar y We, ceir Llundain Fwyaf yn amlach na Llundain Fawr, ond on'd ydy hi'n gamgymeriad gan bobl sy'n chwilio am yr ymadrodd cywir? Dwi wedi dileu Llundain Fwy (ychydig iawn o hits ar Google, ddim yn y geiriadur). Dwi wedi cadw'r ddau arall, ond fuase'n well gen i symud y brif dudalen i Llundain Fawr gyda redirect o Llundain Fwyaf. Daffy 09:29, 7 Awst 2006 (UTC)Ateb
Canol Llundain fasan ni'n ei ddweud yn naturiol; y cwestiwn wedyn ydy pa enw i'r gweddill? Llundain Ymylol? A 'Chanol Manceinion'? Mae'r traddodiad o ddefnyddio 'Uchaf' ac 'Isaf' (fel yr awgryma Dyfrig (uchod) hefyd yn gwneud synnwyr. Llundain Fawr myn brain i! Yr unig esiamplau o 'Fawr' y medra i feddwl amdanyn nhw ydy: 'Bangor Fawr yn Arfon' a 'Chlynnog fawr'. Ond dyna ni, mond enw ydy o! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:57, 12 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Yn wahanol i'r hyn mae Daffy yn dweud uchod, Llundain Fwyaf sydd yng Ngeiriadur yr Academi, a dyna sydd orau gen i â dweud y gwir. Ham (sgwrs) 11:37, 12 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Byddai hynny'n cyd-fynd / yn gyson efo 'Manceinion Fwyaf'. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:38, 14 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Llundain Fawr".