Sgwrs:Llyfr y Cysgodion
Sylw diweddaraf: 15 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Enw'r erthygl
Enw'r erthygl
golygu'Cysgodion' yw'r lluosog, ond a ddylai gael ei newid i Llyfr o Gysgodion, neu Llyfr y Cysgodion?--Ben Bore 11:05, 18 Chwefror 2009 (UTC)
- Mae "Cysgodau" yw'r lluosog hefyd.
- Llyfr y Cysgodion sy'n gywir, os dwi'n deall y gwreiddiol yn iawn (en: Book of Shadows, fr: Livre des Ombres). Mae'n wir bod 'cysgodau' yn amrywiad dilys ar 'cysgodion' yn ôl y geiriadur ond yr olaf sy'n arferol, wrth gwrs. Anatiomaros 18:04, 18 Chwefror 2009 (UTC)
- ON Oni bai fod hyn yn cyfrif fel enw disgrifiadol, fel 'llyfr coginio', 'llyfr swynion', er enghraifft: felly 'llyfr cysgodion'. Ond mae'r Saesneg yn defnyddio priflythrennau. Dwi am symud o i Lyfr y Cysgodion felly (os na ddaw goleuni o rywle cyn diwedd fy sesiwn!). Anatiomaros 18:18, 18 Chwefror 2009 (UTC)
- Clyfar iawn, Anatiomaros. Cytuno. Llywelyn2000 23:39, 18 Chwefror 2009 (UTC)
- Dwi'n meddwl bod y ddau'n gywir. Pan dwi'n ysgrifennu yn fy Llyfr o Gysgodau i, dwi gwastad yn crybwyll iddo fel "Llyfr o Gysgodau," ond dwi'n medru gweld "Lyfr y Cysgodion" yn gweithio hefyd. Ond dwi am ei chadw fel "Llyfr o Gysgodau." Hefyd, dwi ddim yn gweld dim pwynt o gwbl o ddefnyddio "Llyfr o Gysgodau" i'r teitl, a rhoi "Llyfr y Cysgodion" i lawr. Fedrwn i bleidleisio ar un, plîs?
Paragraff aneglur
golyguTynnais y canlynol allan, dim amser i'w gywiro.
- Yn Wica Traddodiadol Prydeinig, sydd yn cylchdroi yn fawr o gwmpas yr adeiledd o Gylch (Saesneg: Coven) penodol, yn draddodiadol llaw ysgrifenedig o Lyfr o Gysgodau Arch Offeiriad neu Arch Offeiriades rhywun, sydd wedi cael eu copi eu hunain oddi wrth eu Harch Offeiriad neu Arch Offeiriades. Pa fodd bynnag, yn derminoleg Wica Eclectig, mae Llyfr o Gysgodau yn siwrnal personol, er hefyd yn actio mewn cynhwysedd tebyg i Lyfr o Gysgodau o bobl draddodiadol.
Cyflwyniad
golyguYndan i ddal i gyfieithu'r cyflwyniad? Beth am . . .
"O fewn llwybrau / ffurfiau traddodiadol gyda llinach, y ceir amryw o fersiynau’r Llyfr o Gysgodau, gyda chynnwys yn amrywio o’r prif Lyfr o Gysgodau Gerald Gardner, a boblogeiddiwyd Wica yn gyntaf. Roedd Gardner yn defnyddio’r llyfr fel siwrnal personol cyn iddo ynydu pobl eraill, a mae’r Llyfr yn destun crefyddol ym mhob traddodiad Wicaidd."