Sgwrs:Llyn Myngul (Tal-y-llyn)
Latest comment: 16 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Onid Llyn Myngul yw enw'r llyn? Dyna a geir yn Atlas Meirionnydd er enghraifft. Anatiomaros 19:56, 19 Tachwedd 2007 (UTC)
- "Llyn Mwyngil" sydd gan y map OS 9nid bod hwnnw'n ddiogel bob tro). Mae nifer o fersiynau o enw'r llyn ar gael, efallai y dylid eu rhestr yn yr erthygl. Ar Google: "Llyn Myngul" = 3, "Llyn Mwyngil" = 260. Rhion 21:45, 19 Tachwedd 2007 (UTC)
- Digon teg. Dwi'n cyfaddef fod y ffurf Mwyngil yn lled ddiarth i mi, ond cofiaf ddarllen rhywle (ond lle?!) fod yr enw yn tarddu o mwnwgl (gwddw). Mae cael y ffurf gywir ar enwau lleoedd yn Gymraeg bron yn amhosibl weithiau. Heddiw sylweddolais fod o leiaf tair ffordd o sillafu Llanfachreth (de Gwynedd) er engraifft (-reth, -raeth neu -raith). Iawn, wna i nodi y ffurf amgen yn yr erthygl a gwneud tudalen ailgyfeirio. Diolch am y wybodaeth. Anatiomaros 21:58, 19 Tachwedd 2007 (UTC)