Sgwrs:Mecsico

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Teitl

Teitl golygu

Mexico? Pam nid Mecsico?

Rwy'n defnyddio 'Mecsico' ac wedi defnyddio'r ffurf Gymraeg hyd fy oes. Fy mhrofiad oedd mai hwn oedd y ffurff cywir a'r ffurff a ddefnyddir gan siaradwyr y Gymraeg. Rwy' yn cofio unwaith 'cywiro' rhywun wnaeth ddefnyddio 'x' ac ni wnaethon nhw gwyno am y newid. Os ydym yn defnyddio 'Mexico', pam nad 'taxi'? Hefyd, pam nad 'England' a 'France' yn lle 'Lloegr' a 'Ffrainc'? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Huwbwici (sgwrscyfraniadau) 22:13, 14 Awst 2009 (UTC)Ateb

Gweler y Sgwrs am yr enwau gwledydd yn y Caffi. Gwell i mi beidio deud unrhywbeth arall yma neu mi fydd rhywun yn cyhuddo fi o greu "pwped wici" o'r enw Huwbwici. Anatiomaros 23:35, 14 Awst 2009 (UTC)Ateb
Pam nad México? Dyna'r gwreiddiol, ynte? Fyddet ti'n gofyn i'r Sais "Mexico? Pam nid México?" Yn bersonol, fe gytunwn â thi, Mecsico sgwenais i erioed, ond mae gennym ni ar Wicipedia Cymraeg reol (neu ganllaw) sy'n gosod ryw fath o safon (neu mi eith pethau'n flêr!). Mi elli di ddarllen ychwaneg am ein canllaw ar enwau gwledydd ar y dydalen yma. Llywelyn2000 01:55, 15 Awst 2009 (UTC)Ateb
Gyda llaw, yn Estoneg ac un neu ddwy o ieithoedd eraill, mae nhw'n fwy ffonetig na dy awgrym "Mecsico". "Mehhiko" ydy eu gair nhw - sef ynganiad ffonetig o'r Sbaeneg gwreiddiol, yn hytrach na'r Saesneg. Wyt ti am awgrymu mynd gam ymhellach yn Gymraeg, hefyd, a galw'r wlad yn Mehico? Pam lai! Ond yma ar Wici, fel dwi'n dweud uchod, mi rydan ni'n cadw at safonau'r Atlas Cymraeg oni bai fod trafodaeth fel hon; wedyn gellir eithrio. Beth wyt ti'n ei feddwl? Llywelyn2000 02:19, 15 Awst 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Mecsico".