Sgwrs:Merch

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Mae hyn yn llanast. Yn un peth mae menyw, sef yr ail ystyr a gynigir, yn ailgyfeirio yma! Mae dynes yn ddolen goch. Dim ond nodi hyn "wrth fynd heibio", am fod cinio yn galw... Anatiomaros 18:41, 20 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

ON Ond mae gennym ni benyw (ystyr fiolegol) a thudalen gwahaniaethu, benywaidd. Anatiomaros 19:40, 20 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Dwi'n trio gwneud synnwyr o hyn fel bod eginyn call oleiaf. Ond dwi mewn bach o ddryswch ynglyn a beth yw ffurf lluosog y gair dynes!? Thaf 19:54, 20 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
"Dynesau", ond prin fod o'n cael ei ddefnyddio llawer. Diolch am y gwaith ar hyn. Rhyfedd fel mae geiriau a thermau cyfarwydd mae rhywun yn cymryd yn ganiataol yn creu pob math o broblemau o geisio eu diffinio! Anatiomaros 20:05, 20 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Lluosog 'dynes' = merchaid, merched, menywod neu lodesi. Cofiwch hefyd am y ffurf 'merchetan / hen ferchetan ('lass'). Tydy'r oedran / yr anghenrhaid o fod yn ifanc i fod yn ferch ddim mor bwysig ag ydyw'r 'anwylder'. Hefyd, 'Mae Mam yn 75 ac yn ferch i Glenda Jones, 'Rhafod.' Llywelyn2000 06:03, 21 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Lluosog 'dynes': yn ymarferol, rwyt ti'n iawn, Llywelyn. Dylswn wedi ychwanegu "os o gwbl y dyddiau hyn" ar ddiwedd "ond prin fod o'n cael ei ddefnyddio llawer", ond mae yn y geiriadur. Efallai basai'n dda nodi ambell hen ddihareb yma hefyd? Anatiomaros 16:07, 21 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Dwnim os ydy hyn wedi cael ei drafd o'r blaen ond dwi ddim yn hoff o ddefnyddio prif lythyren yn gogledd wrth gyfeirio at gogledd Cymru. Nid gwlad gwahanol ydy hi wedi'r cwbl... Thaf 16:44, 21 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Ti'n iawn. Mae'n rhywbeth dwi'n newid yn gyson ar "en" hefyd (h.y. o 'North' i 'north') - rhaid yr oeddwn heb ddeffro yn iawn! Croeso i ti newid o. Anatiomaros 16:56, 21 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Mae Thaf yn gywir, a thithau Anatiomaros; ond wyddoch chi, mae'n anodd tynnu cast allan o hen geffyl, a thros fy nghrogi'n unig yr ydw i'n rhoi llythrennau bach ynddyn nhw: hen arferiad ers dyddia ysgol a choleg, mae'n debyg. (A thros fy nghrogi yr ydw i'n dyblu'r 'n' hefyd - ond stori arall ydy honno!)
Nôl i'r dudalen "Merch".