Sgwrs:Mynydd Du

Latest comment: 17 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

dwi ddim yn meddwl y dylai'r erthygl hon ailgyfeirio i Montenegro.

mae'r tair erthygl ganlynol yn y wikipedia saesneg yn awgrymu bod digon o amrywiadau ar "mynydd du" yng nghymru i'n drysu yn lân, heb fynd i ddwyrain ewrop!

[Black Mountain (hill)] [Black Mountain (range)] [Black Mountains, Wales]

dwi a daearyddiaeth ddim yn llawer o ffrindiau. oes unrhyw un yn gwybod mwy am y mynyddoedd yma na fi i sgwennu erthygl(au) call amdanyn nhw? falle bod eu henwau cymraeg yn llai dryslyd...

Rwyt ti'n iawn, wrth gwrs. Dwi newydd gyweirio'r ddolen: dydi Montenegro (monte=mynydd negro=du) ddim yng Nghymru (neu doedd hi ddim, o leia')!

Cyn belled â mae'r dolenni Saesneg yn y cwestiwn, dydi hynny ddim yn broblem yn y Gymraeg; Mynydd Duon = "Black Mountain(s)" (mae "Black Mountain" a "Black Mountains" yn cael eu defnyddio am y gadwyn yn Saesneg), Mynydd Du = "Black Mountain (hill)". Dwi ddim yn gwybod am unrhyw fryn arall o'r ewn Mynydd Du yng Nghymru - os oes 'na byddai'n ddigon hawd gwneud tudalen gwahaniaethu (gobeithio hefyd fod neb yn ddigon twp i gyfieithu Karakoram i'r Gymraeg fel enw erthygl gan fod hynny'n meddwl "Mynyddoedd Duon" hefyd! Anatiomaros 19:07, 30 Hydref 2006 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Mynydd Du".