Sgwrs:Pandemig ffliw 2009
Sylw diweddaraf: 15 o flynyddoedd yn ôl gan Adam ym mhwnc Newid y teitl?
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r WiciBrosiect Meddygaeth. |
Teitl yr erthygl
golyguMae hon yn erthygl dda, cyfoes. Ond 'Tarddiad' sy'n cael ei ddweud yn naturiol. Dwi'n siwr fod na ryw eiriadur yn mynnu fod 'na wahaniaeth, a bod angen cyfieithiad o ryw derm arbenigol, ond mae'n crensian yn fy nghlywstia i. Oes 'na ddadleuon cry dros 'Tarddiant' yn hytrach na'r hen air? Llywelyn2000 18:57, 29 Ebrill 2009 (UTC)
- Shwmae! Y rheswm dewisais i'r term "tarddiant" yw am mai dyna oedd y term (yn fy nhyb i) a oedd agosaf at y term "outbreak" yn Saesneg. Mae'n un o'r termau mae Dr. Bruce yn ei gynnwys yn Ngeiriadur yr Academi. Yr opsiynau eraill oedd "toriad allan" (sy'n gyfieithiad o idiom Saesneg, break out) neu "cychwyn / cychwyniad" a do'n i ddim yn teimlo fod rheiny'n taro deuddeg chwaith. O ran "tarddiad", mae hynny'n cyfeirio at ble y dechreuodd y ffliw ac felly'n newid yr ystyr rhywfaint. Nid erthygl benodol am ble ddechreuodd H1N1 ydyw ac felly dw i'n credu dylen ni sticio at "tarddiant". (Ymddiheuriadau i dy glustiau ;o) Rhodri77 19:07, 29 Ebrill 2009 (UTC)
- HE HE; MAE NGHLYSTIA I'N TRYBOWNDIAN! Na, dwi'n deall dy resymeg, a dwi'n meddwl dy fod wedi dewis yn ddoeth. Diolch am yr eglurhad (ond mae e'n dal yn swnio'n artiffisal!) Beth am ychwanegu 'outbreak' rywle ar y top, i bobl ddeall y gwahaniaeth yn syth? Llywelyn2000 19:13, 29 Ebrill 2009 (UTC)
Newid y teitl?
golyguGa i awgrymu ein bod yn newid y teitl i Ffliw Epidemig 2009 am sawl rheswm: yn gyntaf, mae'n symlach, yn ail mae'n cynnwys y gair "Pandemig", sydd, bellach yn bwysicach na "tarddiant" ac yn olaf mae'n gydnaws ag erthyglau mewn ieithoedd eraill. Os y daw ffliw arall cyn diwedd y flwyddyn, sydd hefyd yn epidemig, yna gallwn ychwanegu'r H1N1 er mwyn gwahaniaethu. Llywelyn2000 11:03, 28 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Dwi'n credu fod angen y gair "moch" rhywle yn y teitl oherwydd yr enw cyfarwydd yw ffliw'r moch (swine flu). Sut aeth eich taith Llywelyn? Ydych chi'n mynd i'r eisteddfod? Rhys Thomas 14:48, 28 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Pa hwyl? Y lleygwr sy'n defnyddio Ffliw Moch, cofia, nid y byd meddygol. A does neb gant-y-cant yn siwr mai moch ydy ei ffynhonnell! Ond, wedi deud hynny mae Pandemig Ffliw Moch 2009 yn well gen i na'r fersiwn bresennol (tarddiant ydy'r tramgwydd, dwi'n meddwl)! Hefyd mae llawer o wahanol fathau o Ffliw Moch (gweler [1] am restr). Roedd y gwyliau'n wych, a'r bwyd yn arbennig. Nol i'r gwaith rwan ac yn rhy brysur i dwyllu'r babell fawr yn y Bala.... ar wahan i un diwrnod efallai, i foddhau'r teulu! Fe ddaw canlyniadau'r Lefel A cyn hir i tithau. Tan hynny mwynha'r gwyliau a bydd wych! Llywelyn2000 21:30, 28 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Ah..fi'n gweld!! Neis clywed eich bod wedi mwynhau eich gwyliau- jyst gobitho bydd y tywydd diflas yma yn gwella erbyn wythnos nesa! Rwy'n gobeithio mynd i faes b o'r Mercher ymlaen- efallai ai draw i fwrdd yr iaith a cymdeithas yr iaith i hybu wicipedia! Hwyl am y tro! Rhys Thomas 22:17, 28 Gorffennaf 2009
- Bydd yn Llysgenad Wicipedia yno, gyda holl anrhydedd a berthyn i'r swydd! Llywelyn2000 23:13, 29 Gorffennaf 2009 (UTC)
- Cefnogi symud i pandemig ffliw 2009. --Adam (Sgwrs) 00:00, 13 Awst 2009 (UTC)