Pandemig ffliw 2009

Brid newydd o feirws y ffliw yw tarddiant y ffliw H1N1 2009 (Sa: 2009 swine flu outbreak) a ddechreuodd ym mis Ebrill 2009 ym Mecsico. Cyfeirir ato hefyd fel pandemig ffliw 2009 a ffliw moch. Erbyn yr 28ain o Ebrill, roedd y feirws wedi heintio pobl yn Ninas Mecsico, yr Unol Daleithiau, Sbaen, Canada, Israel a'r Alban. Ym Mehefin codwyd y lefel rhybudd i "Lefel Pandemig" gan Gyfundrefn Iechyd y Byd (CIB). Mae hi'n fwy na thebyg mai mewn moch yr esblygodd y math hwn o feirws a hynny yng nghyfandir America.[1]

Teithwyr yn gwisgo mygydau ar drên yn Ninas Mecsico
Graff o Ebrill hyd at Gorffennaf 2009. Ffynhonnell: Cyfundrefn Iechyd y Byd.

Erbyn 17 Gorffennaf roedd 263 o bobl wedi marw o'r afiechyd yn yr Unol Daleithiau a thros 1,000 wedi eu heintio. Ledled y byd yn ôl WHO[2] roedd dros 700 o bobl wedi marw o H1N1 2009. Dywedodd Keiji Fukuda, llefarydd ar ran WHO ar 24 Gorffennaf 2009 fod yr haint wedi ymledu i 160 o wledydd ac y gall heintio dau biliwn (2,000,000,000) o bobl yn ystod y ddwy flynedd nesaf.[3]

Erbyn diwedd Gorffennaf roedd 65% o holl achosion o'r haint drwy Ewrop yng ngwledydd Prydain[4], sef 23 marwolaeth a dywedwyd bod 55,000 o bobl yn cael eu heintio yn wythnosol.[5]

Nodweddir yr achosion hyn gan symptomau ffliw difrifol, yna niwmonia, sydd wedi bod yn farwol mewn rhai achosion ym Mecsico. Daw rhan o'r brid newydd o'r firws A'r ffliw dynol (is-fath H1N1), ac yn rhannol o wahanol fridau o'r ffliw a welir mewn moch yn unig. Ym mis Ebrill, mynegodd Cyfundrefn Iechyd y Byd a Chanolfan Rheolaeth Afiechydon yr Unol Daleithiau bryderon mawr am y math hwn, am ei fod yn medru cael ei drosglwyddo o berson i berson, a'r ffaith fod ganddo gyfradd marwolaeth gymharol uchel ym Mecsico, a'r potensial i ddod yn bandemig enbyd.

Ar y 24ain o Ebrill, 2009, caewyd a gohiriwyd pob ysgol, prifysgol a digwyddiad cyhoeddus ym Mecsico,[6] tra bod ysgolion eraill yn Unol Daleithiau America wedi'u cau pan gadarnhawyd y firws ymhlith eu myfyrwyr.[7]. Cyhoeddwyd y byddai ysgolion ym Mecsico yn aros ynghau tan y 6ed o Fai, 2009.[8] Ar y 25ain o Ebrill, 2009, nododd Cymdeithas Iechyd y Byd yn ffurfiol fod y sefyllfa yn "argyfwng iechyd cyhoeddus ar lefel ryngwladol", gyda phrinder gwybodaeth o ran "nodweddion clinigol, epidemiolegol, a firol yr achosion a wyddir amdanynt a'r ymateb priodol".[9] Mae asiantaethau iechyd llywodraethol byd-eang wedi mynegi pryder am y tarddiad ac yn monitro'r sefyllfa'n ofalus.

Cefndir y tarddiant golygu

 
Graff nifer o geisiadau- Mae'r graff Saesneg yma yn dod o Gyfundrefn Iechyd y Byd ac yn cael ei ddiweddaru'n gyson.

Tymor blaenorol y ffliw golygu

Cyn y tarddiad hwn, roedd gaeaf 2008-2009 yn gymharol ysgafn o ran heintiadau'r ffliw, sydd gan amlaf yn achosi 250,000 - 500,000 o farwolaethau'n flynyddol,[10] ymysg yr henoed, yr ifanc a phobl â salwch cronig fel arfer. Erbyn yr 8fed o Ebrill, 2009, roedd Canolfan Rheoli Afiechydon yr Unol Daleithiau wedi cyhoeddi 43 o blant â ffliw tymhorol o'i gymharu â 68 yn y tymor blaenorol. Priodolwyd y gwelliant hwn i well meddyginiaeth dymhorol yn 2008, lle diweddarwyd y tri math ar yr un pryd mewn rhai achosion (H1, H3, and B). Daeth hyn yn sgîl perfformiad gwael meddyginiaeth 2007, a oedd yn amddiffyn pobl o rhwng 2 - 20% o'i gymharu â 70 - 90% a welir mewn rhai blynyddoedd. Priodolwyd y gwelliant hefyd i argymhellion newydd y dylai plant rhwng 5 - 18 oed gael brechiad, er mwyn eu hamddiffyn.[11][12]

Capten Dr. Joe Bresee o'r CDC (Centers for Disease Control and Prevention) yn disgrifio'r symtomau. Gwylio'r fideo efo is-deitlau

O fis Rhagfyr 2005 tan fis Chwefror 2009, gwelwyd 12 achos o bobl yn dioddef o ffliw'r moch, mewn deg o daleithiau UDA.[13]

Tarddiant newydd o'r ffliw golygu

Daethpwyd o hyd i'r tarddiant newydd yn Ardal Ffederal Mecsico, lle gwelwyd twf yn y nifer o achosion tebyg i'r ffliw o'r 18fed o Fawrth ymlaen. Tan yr 21ain o Ebrill, credai nifer o awdurdodau Mecsico mai "ffliw a oedd yn hwyr yn y tymor" ydoedd, pan ddaeth rhybudd oddi wrth y Ganolfan Rheoli Afiechydon fod dau achos o ffliw'r moch. Roedd y ddau achos cyntaf i gael eu cadarnhau wedi effeithio ar ddau blentyn a drigai yn yr Unol Daleithiau, yn nhalaith San Diego a thalaith Imperial, Califfornia. Aeth y plant hynny'n sâl ar Fawrth yr 28ain a'r 30ain. Cadarnhaodd Mecsico y math newydd hwn o ffliw, gan ei gysylltu gyda'r tarddiad newydd o achosion tebyg i'r ffliw. Darlledwyd y wybodaeth am y cysylltiad yn fyw ym Mecsico ar y 23ain o Ebrill, 2009.

Ym mis Mawrth ac Ebrill 2009, gwelwyd dros 1,000 o achosion tybiedig o ffliw'r moch mewn pobl ym Mecsico a de-orllewin yr Unol Daleithiau. Roedd y math yma o ffliw yn anghyffredin o gryf ym Mecsico, gan achosi 81 o farwolaethau hyd yn hyn, gyda'r mwyafrif ohonynt yn Ninas Mecsico, er bod achosion wedi eu cofnodi yn nhaleithiau San Luis Potosí, Hidalgo, Querétaro a Thalaith Mecsico, sydd i gyd yng nghanol Mecsico; mae rhai o'r achosion ym Mecsico wedi'u cadarnhau fel math o H1N1 nas gwelwyd mo'i fath o'r blaen gan Gymdeithas Iechyd y Byd. Mae'r mwyafrif o farwolaethau ym Mecsico wedi effeithio ar oedolion ifanc rhwng 25 a 45 oed, sy'n nodweddiadol o bandemig ffliw. Ar y 24ain o Ebrill, 2009, dywedodd Gweinidog Iechyd Mecsico, José Ángel Córdova eu bod "yn delio â firws ffliw newydd sy'n epidemig resbiradol, na ellir hyd yma ei reoli."

Poeni am bandemig golygu

 
     Marwolaethau wedi'u cadarnhau.     Achosion wedi'u cadarnhau.     achosion heb eu cadarnhau .
 
Symptomau ffliw'r moch o fewn bodau dynol

Mae'r Ganolfan Rheoli Afiechydon yr Unol Daleithiau (CRhA) a Chyfundrefn Iechyd y Byd (CIB) yn poeni y gallai'r tarddiant hwn ddatblygu i fod yn bandemig, am y rhesymau canlynol.[14]

Math newydd o'r firws
Mae'r firws yn fath newydd o'r ffliw, ac nid yw pobl wedi eu brechu yn ei erbyn nac ychwaith wedi'u himiwneiddio'n naturiol.[15]

Trosglwyddiant dynol eang
Ymddengys fod y firws yn heintio drwy drosglwyddo o berson-i-berson. Nid yw archwiliadau o gleifion wedi awgrymu unrhyw gysylltiad â moch, fel trwy fod ar fferm neu ffair amaethyddol.[16] Cadarnhawyd yn ddiweddarach fod y brid hwn wedi ei drosglwyddo ymysg pobl. Yn gwbl gyferbyniol i hyn, yn ystod y tarddiant difrifol diwethaf o'r ffliw sef y ffliw adar a gyrhaeddodd uchafbwynt yn 2006, roedd y salwch hwn wedi'i achosi bron yn gyfangwbl gan gyswllt rhwng pobl ac adar.

Enbydrwydd
Mae'r firws wedi achosi afiechyd difridol ym Mecsico, a rhai marwolaethau hefyd. Yn ogystal â hyn, ym Mecsico (er nid yn yr Unol Daleithiau) mae'r salwch wedi effeithio ar oedolion ifanc, iachus, yn debyg i'r Ffliw Sbaenaidd 1918, o bosib oherwydd ffenomenon a elwir y storm cytokine.[17] Gyda'r mwyafrif o achosion o'r ffliw, mae'n effeithio waethaf ar blant ifainc, yr henoed ac eraill gyda systemau imiwnedd gwan.

Diffyg gwybodaeth
Am fod cynifer o ffactorau yn parhau i fod yn anhysbys, megis cyfraddau a phatrymau trosglwyddiant ac effeithiolrwydd triniaethau'r ffliw, ynghyd â natur cyfnewidiol bridau o'r ffliw, nid oes modd rhagfynegi'r hyn fydd yn digwydd nesaf. Fel a nodir, mae ceisio rhagweld maint a difrifoldeb tarddiant y ffliw yn anodd. Ym 1976, roedd llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi darogan pandemig o ffliw'r moch ond ni ddaeth dim ohono.[18]

Cyngor gan y Cynulliad golygu

Dywedodd y Swyddfa Dramor na ddylai neb deithio i Fecsico oni bai bod y daith yn "hollol angenrheidiol". Yn y wlad honno mae'r awdurdodau'n amau bod 101 wedi marw o'r ffliw - llai na'r amcangyfrif gwreiddiol - ond mae 25 yn bendant wedi marw o'r ffliw. Mae achosion wedi'u cadarnhau mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Mecsico, UDA, Canada, Israel, Seland Newydd, Sbaen, Yr Almaen, Awstria, Y Swistir, Portiwgal, Yr Eidal a'r Iseldiroedd. Yn yr Unol Daleithiau mae 226 o bobl yn dioddef o'r ffliw a bu farw plentyn 23 mis oed. Roedd y bachgen o Fecsico yn ymweld â theulu yn Texas.[19]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Swine Flu Might Have Come From Asia" New York Times, Mehefin 23, 2009
  2. Gwefan y BBC
  3. Gwefan y BBC
  4. Gwefan y BBC
  5. [*http://www.direct.gov.uk/pandemicflu Gwefan ITN
  6. "Mexican Schools Shut as Epidemic Hits 'Critical' Point". The Washington Post. 2009-04-27. Adalwyd ar 2009-04-28
  7. "Schertz-Cibolo-Universal City ISD". Scuc.txed.net. 2009-02-23. . Adalwyd ar 2009-04-27
  8. "Swine Flu Extends Reach, Sickens Hundreds in New York (Update1)". bloomberg.com. Adalwyd ar 2009-04-28.
  9. "Datganiad gan Reolwr Cyffredinol Cyfundrefn Iechyd y Byd Dr Margaret Chan 25 Ebrill 2009 — Swine influenza".[dolen marw] Cymdeithas Iechyd y Byd. 2009-04-25. Adalwyd ar 2009-04-26.
  10. WHO information on influenza Cyfundrefn Iechyd y Byd. 2003-03
  11. Strikes a Milder Blow This Season[dolen marw] Steven Reinberg. HealthDay. 2009-04-08]
  12. WHO names three new strains for 2008 flu vaccine Archifwyd 2009-04-29 yn y Peiriant Wayback. CTV News. 2008-02-15
  13. Swine Influenza (Flu) CDC. 2009-04-25. Adalwyd ar 2009-04-26
  14. [Besser, Richard, Acting Director CDC. Trawsgrifiad y Wasg CRhA Ebrill 24, 2009 (heb ei olygu): "there are really three things we want to look for when we’re thinking about whether a virus is causing a new pandemic...".
  15. CRhA yr Unol Daleithiau.Morbidity and Mortality Weekly Report Dispatch, Ebrill 21, 2009. Adalwyd 28-04-2009
  16. "Grippe porcine: Mexico sous tension, le monde en alerte - Yahoo! Actualités". Fr.news.yahoo.com. Adalwyd ar 2009-04-27.
  17. Besser, Richard, Cyfarwyddwr Gweithredol y CRhA. Trawsgrifiad CRhA i'r Wasg. Ebrill 24, 2009 (heb ei olygu): "there are really three things we want to look for when we’re thinking about whether a virus is causing a new pandemic...".
  18. Mike Stobbe, "Swine Flu's Course Unpredictable", Express (Washington, D.C.), Ebrill 27, 2009, td. 3.
  19. http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8020000/newsid_8029000/8029099.stm

(Rhybudd: mae'r rhan fwyaf o'r gwefannau hyn yn rhai Saesneg.)

Dolenni allanol golygu