Sgwrs:Penyrheol, Trecenydd ac Enau'r Glyn
Sylw diweddaraf: 11 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Enw/cynnwys
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Enw/cynnwys
golyguPam fo tri lle mewn un erthygl? Mae Penyrheol yn un lle ar en (en:Penyrheol, Caerphilly), hefyd Trecenydd (en:Trecenydd), a hefyd Enau'r Glyn (en:Energlyn). -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 01:20, 25 Hydref 2011 (UTC)
- Yng nghrynodeb y ddalen dywedodd poriws1: Cymuned ar ochr orllewinol tref Caerffili yw Penyrheol, Trecenydd ac Enau'rglyn. Un cymuned ydyw felly? Ond mae yma gamdreiglad hefyd: a Genau'r Glyn ddylai fod. Mae angen chydig o ymchwil lleol, Mr Holmes. Ac fel yr awgrymi mae'r dair cymuned yn haeddu erthygl unigol, ar wahan.Llywelyn2000 03:54, 25 Hydref 2011 (UTC)
- Ia, mae'r (?)camdreiglad 'Enau'r Glyn' yn od iawn, a deud y lleia. 'Energlyn' (ych!) yw'r ffurf Saesneg, fel y nodir Glen ac mae'r erthygl S. yn rhoi "Enau'r Glyn" fel yr enw Cymraeg ond does dim cyfeiriad at "Enau'r Glyn" ar ol Gwglio amdano. Gallai fod yn dalfyriad o enw gwreiddiol hirach sy wedi mynd yn anghof ond anodd meddwl am un fyddai'n achosi treiglad. Rhyfedd iawn. Anatiomaros (sgwrs) 21:56, 13 Mai 2013 (UTC)
- Mae'r Llywodraeth a San Steffan yn defnyddio 'Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn'.--Ben Bore (sgwrs) 10:32, 14 Mai 2013 (UTC)
- Diolch am y wybodaeth Rhys. Rhaid i ni ei dderbyn felly. Diddorol gweld fod tarddiad 'Energlyn' yn achosi cryn benbleth i eraill hefyd! Anatiomaros (sgwrs) 22:00, 14 Mai 2013 (UTC)