Sgwrs:Plaid Gomiwnyddol Prydain

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Newid i enw anghywir

Newid i enw anghywir golygu

Roedd symud hyn yn gamgymeriad. Mae'r enw yn ddigon amlwg: Plaid Gomiwnyddol Prydain (The Communist Party of Britain, CPB) nid "Plaid Gomiwnyddol Gwledydd Prydain". Mae'r enw hwnnw yn anghywir ac yn gamarweiniol hefyd (gan amlaf defnyddir y term Cymraeg "Gwledydd Prydain" i gyfeirio at y DU, yn gam neu'n gymwys, ond fel yn achos yr hen Blaid Gomiwnyddol, sef Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, dydy'r blaid newydd hon ddim yn weithgar yn Chwe Sir gogledd Iwerddon). Mae angen erthygl am yr hen blaid (Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr - Communist Party of Great Britain CPGB) hefyd rywbryd gan mai rhyw rhelyw gwan o'r blaid honno yw'r blaid newydd. Cyfieithiad llythrennol, oni bai fod y blaid newydd ei hun yn defnyddio'r term "Gwledydd Prydain", sy'n bur anhebygol, yw'r dewis cywir. Fel arall dwi o blaid y term "Gwledydd Prydain" (i gyfeirio at Gymru, Yr Alban a Lloegr) ond yma mae'n creu dryswch diangen. 79.75.193.37 22:20, 11 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb

Pam nad oes cyfrif gennych? Golygydd da dach chi. If you had an account, you would be able to move the article yourself. (Sorry -- can't remember how to construct that kind of if clause -- argh!) Cathfolant (sgwrs) 22:24, 11 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Diolch Cathfolant! Dach chi'n garedig. Mae gennyf gyfrif yma yn barod ond dwi wedi bod yn rhy brysur efo pethau eraill (bywyd etc etc etc) i ddechrau cyfrannu'n rheolaidd eto tan yn ddiweddar. Rwan bob tro dwi'n dod yma "jest i gael cipolwg sydyn" ar yr hen Wici dwi'n methu gwrthod y temtasiwn i ddechrau golygu a chywiro. Gwell fyddai dod allan o ymddeoliad felly, mae'n debyg. 79.75.193.37 22:37, 11 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
OK, dwi'n nôl eto! (Ond dim i olygu dydd a nos, gobeithio). Anatiomaros (sgwrs) 22:42, 11 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
ON Os nad oes wrthwynebiad dwi am symud hyn yn ôl i Plaid Gomiwnyddol Prydain mewn diwrnod neu ddau. Anatiomaros (sgwrs) 22:59, 11 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Mae'ch sylwadau yn gwneud synnwyr i mi felly does dim gwrthwynebiad gen i. Cathfolant (sgwrs) 23:46, 11 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Ar y llaw arall... yma mae Llywelyn2000 yn dweud 'dyw "Prydain" ddim yn bodoli oddi eithr yng ngeiriadur y Sais.' Dwi ddim yn siwr beth mae e'n olygu. Cathfolant (sgwrs) 00:27, 12 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Croeso'n ol Anatiomaros! Yn groeso i'r graen, dw i wedi ei newid yn ôl, yn bennaf gan ei fod yn gyfieithiad agosch at yr enw a ddefnyddir gan y blaid ei hun[1]. Yn bersonol mae'r cysyniad artiffisial, Seisnig o ryw ffug undod yn bodoli yn y gair "Prydain" ac mae hynny'n anathema i mi, ond nid Wicipedia yw'r lle i fynegi barn bersonol gydag enwau fel hyn, efallai. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:24, 12 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Diolch, Llywelyn. Dan ni'n rhannu'r un farn fwy neu lai am Brydeindod ac eto ar y Wici mae'n rhaid parchu enwau mudiadau a sefydliadau er gwaetha hynny, fel ti'n cydnabod. Eniwê, mae'n braf medru cyfrannu i'r Wici eto (wedi gwneud hynny sawl gwaith, pethau bach fel rheol, dros y misoedd dwetha hefyd, heb mewngofnodi).
Gyda llaw, dolen i'r blaid gomiwnyddol arall (Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr) sy gen ti uchod. Rhaid bod rhyw lun arni yn dal i fynd felly neu ei bod wedi atgyfodi yn ddiweddar, er bod y Wici S. yn deud y daeth i ben. Plaid newydd o'r un enw efallai? Ta' waeth, roedd gan yr hen CPGB ran eitha amlwg yng ngwleidyddiaeth y Chwith am flynyddoedd lawer ac mae'n haeddu erthygl yma rywbryd. Anatiomaros (sgwrs) 00:26, 13 Gorffennaf 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Plaid Gomiwnyddol Prydain".