Sgwrs:Plaid Gristionogol Cymru
dileu brawddeg
golyguDwi'n meddwl am ddileu'r frawddeg canlynol:
- Nid oes gair penodol ganddynt am y Cynulliad Cenedlaethol a dim sôn o gwbl am yr iaith Gymraeg.
Dyma'r problem: mae'n anesgor y bydd nifer o bynciau heb sôn amdanynt rhwng eu polisiau; os yw'r erthygl yn dewis un neu ddau ohonynt, ac yn dweud "dim sôn am ...", mae hyn yn awgrymu y dylid bod sôn am y pynciau a roddwyd sylw arnynt. Mewn geiriau eraill, dangosir barn, er bod cynnwys y frawddeg yn hollol ffeithiol. Ydych chi'n cytuno? Diolch, Alan 15:36, 6 Chwefror 2009 (UTC)
- Fi sydd ar fai yma. Methu ffindio'r wybodaeth heb dreulio mwy o amser yn chwilio. Ond be roeddwn i'n trio deud ydy bod hon yn blaid hynod adweithiol - "imperialaidd" bron - sy'n hanner-addoli'r frenhines ac yn sicr yn erbyn datganoli o unrhyw fath. Dwi'n siwr bod nhw'n malio dim am y Gymraeg hefyd. "Iaith y Diawl" efallai, os ydy'r Ddraig Goch yn symbol o'r Gŵr Drwg (fel mae'r morons yma wedi dweud!). Diolch i'r nefoedd fod neb bron yn rhoi eu pleidlais iddyn nhw. Anatiomaros 17:37, 6 Chwefror 2009 (UTC)
- I fod yn deg, mae eu gwefan yn dweud "Cymraeg - coming soon", cawn ni dybio felly nad yw'r blaid yn ei gwrthwynebu. Dwi'n gweld bod cyfeiriad eu gwefan wedi newid, a llawer o'r cynnwys hefyd, mae'n ymddangos. Gwela restr newydd eu polisiau - rhaid diweddaru'r erthygl felly. Alan 19:03, 6 Chwefror 2009 (UTC)
Ai blaid Gymreig wedi'r cwbl?
golyguPan greais yr erthygl hon bron i dair mlynedd yn ôl roeddwn i dan yr argraff mai plaid gyda'i hunaniaeth ei hun oedd hi, er iddi gael ei chreu gan y blaid Seisnig. Ond ar ôl edrych ar y wybodaeth ar wefan y Comisiwn Etholiadol mae'n amlwg mai ceisio twyllo pobl yng Nghymru - a'r Alban - trwy galw eu hunain yn "Gymreig" ac "Albanaidd" ydynt. Yr unig enw swyddogol ar y brif blaid yw 'Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship"'. Ond dan yr adran 'Party description(s)' ceir y rhestr ryfeddol yma:
- Christian Party
- Christian Party (Scotland)
- Christian Party (Wales)
- Scottish Christian Party
- Scottish Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship"
- The Christian Party
- The Christian Party - CPA
- The Scottish Christian Party
- Welsh Christian Party = Plaid Gristionogol Cymru
- Welsh Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship" = Plaid Gristionogol Cymru "Datgan Arglwyddiaeth Crist"
Unig gyfeiriad swyddogol y blaid yw cyfeiriad y blaid yn Lloegr a'r unig arweinydd yw Hargreaves. Yn fy marn i felly dydyn nhw ddim yn blaid ar wahân. Efallai y dylem ailgyfeirio hyn i Plaid Gristionogol (DU) a chopio'r testun i fan 'na?
Diolch i Paul am fynd i'r drafferth o siecio'r enw Cymraeg, a arweiniodd at ddarganfod y wybodaeth hon (gweler [1]). Dipyn o jôc ydy'r enw hwnnw hefyd, gan nad ydyn nhw'n Gymreig (beth bynnag am ei "Gristnogaeth"). Roeddwn yn ddigon anffodus ag i dderbyn eu pamffled etholiadol yn ddiweddar: pob gair yn Saesneg ('run fath â UKIP!).... Be wnawn ni efo hyn felly? Anatiomaros 20:00, 26 Ebrill 2010 (UTC)
ON Maen nhw (h.y. y Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship") mewn cynghrair gyda'r "English Democrats Party". "Party description(s):
- English Democrats - "A Parliament for England!"
- English Democrats - "Better Off Out!"
- English Democrats - "England's National Party!"
- English Democrats - "For a New England!"
- English Democrats - "Putting England First!"
- ENGLISH DEMOCRATS - ENGLISH? british? YOU decide!
- English Democrats 1st Choice Candidate
- English Democrats Supporting Candidate
- ENGLISH or british - YOU decide!
- ENGLISH, british, or EUropean? YOU decide!
- The English Democrats - "England's National Party!"
- The English Democrats - "Putting England First!""
"Ni allai'r diawl ddeud yn amgenach"! Anatiomaros 20:03, 26 Ebrill 2010 (UTC)
- Completly agree with the redirect and merge into Plaid Gristionogol (DU) for the reasons above. I had a look into this a few days ago, when working through the Election candidates in Welsh constituencies, after seeing several standing for the Christian Party, but it's only today I've got round to updating the relevant articles. Paul-L 20:41, 26 Ebrill 2010 (UTC)
- Diolch am yr ymateb, Paul. Can't see any objection but I'll wait till the end of the evening in case anybody else wants to comment. Perhaps this discussion could be archived to the Plaid Gristionogol (DU) talk page? Anatiomaros 20:59, 26 Ebrill 2010 (UTC)
- Ailgyfeirwyd y dudalen ac addaswyd y testun i'r erthygl arall. Copiwyd y sgwrs uchod hefyd. Anatiomaros 23:10, 26 Ebrill 2010 (UTC)