Plaid Gristionogol (DU)

(Ailgyfeiriad o Plaid Gristionogol Cymru)

Plaid wleidyddol Gristnogol leiafrifol yw Y Blaid Gristionogol (cyfieithiad answyddogol yn achos y DU; Saesneg: The Christian Party). Fe'i sefydlwyd gan y Parch James George Hargreaves ar gyfer yr etholiadau i Senedd Ewrop yn yr Alban yn 2004 fel Operation Christian Vote. Mae'n gweithredu dan yr enw hwnnw ac eraill yn Lloegr ac fel 'Plaid Gristionogol Cymru' yng Nghymru a'r 'Scottish Christian Party' yn yr Alban.

Plaid Gristionogol
Arweinydd George Hargreaves
Sefydlwyd 2005
Pencadlys
Ideoleg Wleidyddol Cristnogaeth, Ewrosgeptigiaeth, Theogeidwadaeth, Dde Cristnogol
Safbwynt Gwleidyddol Adain-dde
Tadogaeth Ryngwladol Dim
Tadogaeth Ewropeaidd Dim
Grŵp Senedd Ewrop Dim
Lliwiau Fioled
Gwefan www.christianparty.org.uk/
Gwelwch hefyd Gwleidyddiaeth y DU

Mae'n fudiad asgell-dde sy'n pregethu Cristnogaeth ffwndamentalaidd. Mae yn erbyn rhyddid personol mewn materion fel rhyw tu allan i briodas ac yn llym yn erbyn hoywon ac erthylu. Yn ogystal mae'n gwrthod yr Undeb Ewropeaidd.

Polisiau

golygu

Yn ôl eu hen wefan[1] mae'r blaid,

Clymbleidiau

golygu

Mae'r blaid yn rhan o glymblaid wleidyddol gyda'r cenedlaetholwyr Seisnig asgell dde yr English Democrats Party a'r Jury Team.[2]

Prif enw'r blaid yw 'Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship"'. Ond defnyddir naw enw arall hefyd sydd wedi eu cofrestru gan y Comisiwn Etholiadol[2], sef:

Christian Party
Christian Party (Scotland)
Christian Party (Wales)
Scottish Christian Party
Scottish Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship"
The Christian Party
The Christian Party - CPA
The Scottish Christian Party
Welsh Christian Party(Plaid Gristionogol Cymru)
Welsh Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship" (Plaid Gristionogol Cymru "Datgan Arglwyddiaeth Crist")

Gweithredant yng Nghymru fel Plaid Gristionogol Cymru, a lawnsiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2007 ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007. Mae ei harweinydd, y Parchedig George Hargeaves, wedi cyhoeddi bod y blaid yn bwriadu cael gwared ar y Ddraig Goch fel baner swyddogol Cymru a defnyddio Croes Dewi Sant yn ei lle. Yn ôl y blaid, y rheswm am hyn yw bod y ddraig yn symbol o'r angenfilod Satanaidd a ddisgrifir yn Llyfr y Datguddiad.

Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007, cafodd gyfanswm o 8,963 o bleidleisiau, 0.9% o'r holl bleidleisiau.

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, ymgyrchodd y blaid yng Nghymru wrth yr enwau Welsh Christian Party / Plaid Gristionogol Cymru a Welsh Christian Party "Proclaiming Christ's Lordship" / Plaid Gristionogol Cymru "Datgan Arglwyddiaeth Crist".[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "ChristianPartyCymru.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-10. Cyrchwyd 2010-04-26.
  2. 2.0 2.1 2.2 "y Comisiwn Etholiadol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-09. Cyrchwyd 2010-04-26.

Dolenni allanol

golygu