Sgwrs:Platon

Latest comment: 8 o flynyddoedd yn ôl by Jac-y-do in topic Plato neu Platon?

Plato neu Platon? golygu

Dydy hi ddim yn bryd i ni benderfynu? -- Jac-y-do (sgwrs) 10:43, 23 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb

@Jac-y-do: M, diddorol, oes mae yma anghysondeb. Felly es ati i edrych pa fersiwn a ddefnyddia 20 wici-iaith arall: 15 yn defnyddio Platon a 5 yn dewis Plato. Ceir 36 cyfeiriad o fewn erthyglau cy eraill at Platon ac 20 at Plato. Y dull rhwyddaf, poblogaidd felly fyddai cadw Platon a chysoni / newid Plato -> Platon. Yng Nghronfa o Gyfieithiadau Cymraeg (Coleg Cymraeg) mae Platon yn codi 4 canlyniad a Plato'n codi dim un; ond o fewn eu mynegai nodir Plato (Platon). Mewn erthygl yn y cylchgrawn Lleufer yn 1946, mae Huw Morris Jones yn trafod 'Platon'. Cyn y 20fed ganrif, Plato a ddefnyddiwyd mewn sawl llyfr a weles ee Seyddiaeth a Seryddwyr a llyfrau Cymraeg diweddarach yn cyfeirio at Platon ee www.cristnogaeth21.org neu Damian Walford Davies yma. Awgrymaf: Platon. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:30, 23 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb

Diolch yn fawr am y gwaith ymchwil, Llywelyn. Dwi'n cytuno â'th awgrym, a wedi newid Plato yn Platon trwy'r erthygl i gyd. Dwi wedi gwneud nifer o ddiwygiadau eraill ar y dechrau hefyd, heb wirio'r erthygl gyfan er hynny. -- Jac-y-do (sgwrs) 14:50, 27 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Platon".