Sgwrs:Refferendwm annibyniaeth yr Alban, 2014
Sylw diweddaraf: 10 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Diolch!
Diolch!
golyguDiolch am y gwaith ardderchog ar y dudalen hon. Ond cofiwch fod gwahaniaeth rhwng Llywodraeth a Senedd yr Alban (cywirwyd). Hyd yn hyn dydy pethau ddim yn edrych yn rhy obeithiol, ond pwy a ŵyr gyda chanlyniadau'r etholaethau mawr heb ddod eto. Cawn weld. Pryd ddaw cyfle Cymru? Mae'n hen bryd! Mae fy nghorff yn deud ei bod yn amser mynd i'r gwely rwan ond bob tro dwi'n meddwl hynny mae disgwyl am ganlyniad arall ar y teledu... Anatiomaros (sgwrs) 02:46, 19 Medi 2014 (UTC)
- Dundee newydd glosio'r gwahaniaeth! Gobeithio iti ei weld! Ie: 49.1% ar hyn o bryd. Ysgytwol. Gobaith fo'n meistr, rhoed amser i ni'n was... chwedl Waldo. Llywelyn2000 (sgwrs) 03:00, 19 Medi 2014 (UTC)
- Trist, ond llygedyn o obaith. Fe all mai'r stormydd mawr a'i grym... Llywelyn2000 (sgwrs) 05:29, 19 Medi 2014 (UTC)
- Ia, trist iawn. Ac eto gollyngwyd y gath o'r cwd... Anatiomaros (sgwrs) 22:37, 19 Medi 2014 (UTC)
- Trist, ond llygedyn o obaith. Fe all mai'r stormydd mawr a'i grym... Llywelyn2000 (sgwrs) 05:29, 19 Medi 2014 (UTC)