Sgwrs:Rhestr brwydrau Cymru
Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Angen newid y teitl neu'r cynnwys
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Angen newid y teitl neu'r cynnwys
golyguDyma gychwyn rhestr ddifyr, Llywelyn, ond dydy'r teitl ddim yn ffitio'r cynnwys. Beth am symud hyn i 'Rhestr brwydrau'r Brythoniaid a'r Cymry'? Fel arall dydy o ddim yn gwneud synnwyr. Mae'r Hen Ogledd a hanes cynnar Chernyw ayyb yn perthyn i hanes a thraddodiad Cymru ond afraid dweud dydyn nhw ddim yn rhan o Gymru fel y cyfryw! Anatiomaros 18:46, 26 Medi 2009 (UTC)
- Dwi wedi symud hyn i Rhestr brwydrau Cymru a sgwennu pwt o eglurhad ar ddechrau'r erthygl a'i threfnu. Gwneiff y tro am rwan, gobeithio. Anatiomaros 17:17, 29 Medi 2009 (UTC)