Sgwrs:Rhestr ysgolion uwchradd yng Nghymru

Latest comment: 17 o flynyddoedd yn ôl by Dyfrig in topic Dyddiadau sefydlu

Dyddiadau sefydlu

golygu

Mae dau ddyddiad sefydlu hen iawn i gael yn y tabl ar gyfer ysgolion cyfun. Os am gofnodi dyddiad sefydlu o gwbl yna, yn fy marn i, dylem gofnodi dyddiad sefydlu'r ysgol ar ei ffurf bresennol. Os oes hanes hir i'r ysgol, cyn ei ffurf bresennol, yna gellir sôn am hynny yn yr erthygl ar yr ysgol. Lloffiwr 12:27, 5 Mai 2007 (UTC)Ateb

Mae dyddiad sefydlu gwreiddiol fel arfer yn ddyddiant pendant ac yn ddyddiad fuasai'n cael ei hadnabod gan gan y sawl sydd â chysylltiad. Mae dyddiad aildrefnu ffurf yn fwy amwys, a chyda llai o arwyddocâd yn y tymor hir. Er enghraifft yn achos Ysgol Friars, Bangor mae'r dyddiad 1557 yn rhan o'r arfbais hyd heddiw, a'r 450fed pen-blwydd newydd ei ddathlu. Ond ers pryd mae dyddio'r ffurf bresennol - 1971 (aildrefnu cyfun), 1978 (gwahanu Ysgol Tryfan), neu 1999 (uno safle)? A phwy fydd yn malio cofio rhain mewn blynydoedd i ddod? Rwyf o'r farn mai'r dyddiad gwreiddiol sydd bwysicaf - ond cytunaf mai yn yr erthygl am yr ysgol mae eisiau sôn amdanynt fwyaf, efallai dileu'r colofn yma. D22 07:35, 27 Mai 2007 (UTC)Ateb
Mae'r pwnc dyddiadau sefydlu yn ymddangos yn un fwyfwy dyrys! Dileu'r golofn dyddiad sefydlu amdani 'te! Lloffiwr 10:24, 27 Mai 2007 (UTC)Ateb

Maddeuwch i mi rwyf wedi gwneud cawl wrth geisio dileu ysgolion Sir Gaerfyrddin a'u rhoi yn unffurf a gweddill y ddalen drwy hepgor Sir.Rwyf am geisio cywiro'r camgymeriad, ond os wyf wedi anghofio rhywbeth gofynnaf am faddeuant Dyfrig 23:06, 16 Gorffennaf 2007 (UTC)Ateb

Diolch am ddadwneud y camgymeriad Dyfrig 23:17, 16 Gorffennaf 2007 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Rhestr ysgolion uwchradd yng Nghymru".