Sgwrs:Rhywedd anneuaidd

Sylw diweddaraf: 5 mis yn ôl gan Llygadebrill ym mhwnc Safoni termau ac ati

Safoni termau ac ati

golygu

Dw i wedi dechrau ail-sgwennu rhai o'r brawddegau gwallus ac annaturiol. Dyw pethau fel "Cymhwyso'r term genderqueer hefyd gan reini" a "cystrawennau cymdeithasol deuaidd o rywedd" yn gwneud dim synnwyr o gwbl heb i rywun un ai dyfalu neu chwilota am y frawddeg wreiddiol cyn iddi gael ei cham-gyfieithu.

Gyda'r termau Cymraeg, da fyddai ffynhonnell ar gyfer pob un - dw i'n siŵr bod dipyn o erthyglau ac ati'n cyffwrdd ar y pwnc erbyn hyn - a nodyn Nodyn:bathu termau ar gyfer unrhyw rai sydd ar ôl.

Roedd tri dyfyniad wedi clymu wrth y frawddeg "fenthyciad o'r defnydd Saesneg o they," ond doedd yr un ohonyn nhw'n dweud unrhyw beth o'r fath. Mae "nhw" yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at un person (anhysbys) ers Beibl William Morgan o leiaf - oes unrhyw dystiolaeth mai o'r Saesneg daeth o? Llygad Ebrill (sgwrs) 12:22, 25 Mehefin 2024 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Rhywedd anneuaidd".