Sgwrs:Söorywioldeb

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Adam

Amau ydwyf a yw'r term "sŵrywioldeb" yn un addas. I ddechrau, mae'r orgraff yn wallus, dim ond ar sillaf acennog (felly dim ond ar y sillaf olaf neu'r olaf ond un) dylid cael acen grom, hyd yn oed pan fyddai'r ystyr yn gliriach fel arall (e.e. grwpiau nid grŵpiau, gemau nid gêmau). Yn ail nid yw sw- yn rhywbeth naturiol iawn i ragddodi ar air Cymraeg, dim sôn amdano yn ngeiriadur y Brifysgol (mae swoleg yn fenthyciad uniongyrchol o'r Saesneg). Oes angen gair? Beth am symyd i "Atynniad rhywiol tuag at anifeiliaid"? Ond os yn teimlo fod angen term, beth am "anifeilrywioleb"? --Llygad Ebrill 19:58, 19 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb

Hon yw un o fy ymgeision lletchwith i gyfieithu term anghyffredin o'r Saesneg i'r Gymraeg. ;) Mae anifeilrywioldeb yn swnio llawer yn well na sŵrywioldeb, ond byddaf i'n hollol fodlon â theitl "disgrifiedig" megis "Atyniad rhywiol tuag at anifeiliaid", ond cofiwch taw pwrpas yr erthygl hon yw i wahaniaethu yr atyniad fel cyfeiriadedd rhywiol (honedig) oddi wrth yr atyniad fel paraffilia (sŵffilia), felly efallai "Atyniad rhywiol tuag at anifeiliaid fel cyfeiriadedd rhywiol" neu rywbeth tebyg? Efallai hefyd dylswn symud sŵffilia i "Atyniad rhywiol tuag at anifeiliaid fel paraffilia", "Atyniad paraffilig/paraffilaidd tuag at anifeiliaid", neu o leiaf i "swffilia" (heb yr acen grom). Gyda llaw, diolch am dynnu sylw i fy "orgraff wallus". ;D --Adam (Sgwrs) 22:19, 19 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb
Dwi am symud yr erthygl hon i söorywioldeb, yn unol ag arfer Geiriadur yr Academi o drawslythrennu zoo- fel söo-. Wnai aros rhai dyddiau am unrhyw sylwadau/barnau. --Adam (Sgwrs) 22:47, 17 Rhagfyr 2009 (UTC)Ateb
Wedi symud i söorywioldeb. --Adam (Sgwrs) 19:08, 31 Rhagfyr 2009 (UTC)Ateb
Bellach wedi cyfuno â söoffilia, gan ddilyn esiampl y Wicipediâu Saesneg a Rwseg. --Adam (Sgwrs) 19:00, 2 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Söorywioldeb".