Sgwrs:Sain Ffagan

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Ben Bore

Oes unrhyw un yn gwybod FAINT o ganeuon, tonau, recordiad ar dâp ayb sydd yn archifdy Sain Ffagan? Mi garwn ychwanegu sain y delyn ar erthygl Wici 'Telyn' a sain y delyn deires ar yr erthygl 'Telyn Deires'. Staff Sain Ffagan: ydych chi wedi cychwyn digideiddi'r cyfoeth yna sydd yn eich seleri? Llywelyn2000 07:39, 22 Awst 2008 (UTC)Ateb

Byddai'n werth rhoi galwad iddynt/danofn e-bost atynt manylion cyswllt yma. Efallai cawn ein synnu. Dylai hawlfraint ddim bod yn broblem dybiwn i gan mai eu recordiau nhw eu hunain yw llawer ohonynt, a bod y lleil yn hen iawn fel nad oes hawlfraint arnynt bellach.
Roedd yn ymddangos fel bod yr Amgueddfa Genedlaethol fel sefydliad wedi ceisio 'cofleidio' dulliau newydd Web2.0 yn gymharol ddiweddar fel rhyw bolisi. Aethant mor bell a dechrau cyfres o flogiau ar gyfer staff - er mae'n ymddangos bod hwn wedi chwythu ei blwc erbyn hyn. Wedi dweud hynny, ma blog 'Cyfryngau Newydd ' (ar y dewislen ar y dde) yn dangos fel mae'r sefydliad yn chwilio am dduliau newydd o gyflwyno eu casgliadau. --Ben Bore 09:43, 22 Awst 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Sain Ffagan".