Sgwrs:Sir Llundain

Latest comment: 3 blynedd yn ôl by Craigysgafn

@Adda'r Yw: Diolch am yr ailgyfeiriad o "Sir Lundain" i "Sir Llundain". Rwy'n poeni nawr. Mwy na thebyg, dylai teitl yr erthygl fod yn "Sir Lundain". Roeddwn i wedi dod o hyd "Cyngor Sir Llundain" mor aml yn hen ddogfennau, doeddwn i ddim yn meddwl am y peth. Ac rwy'n amau a welais erioed "Sir Lundain" neu "Sir Llundain" ar ei ben ei hun. Ond, wrth gwrs, mae "Sir Benfro" a "Cyngor Sir Penfro" yn gywir. Felly mae "Sir Lundain" yn well, siŵr o fod. Barnau eraill? --Craigysgafn (sgwrs) 19:56, 15 Medi 2020 (UTC)Ateb

Ond, ond. Enw'r lle oedd "County of London" bob amser. Nid "Londonshire". H.y. cystrawen enidol, nid cystrawen ansoddeiriol. Felly efallai mai hollol gywir yw "Sir Llundain" wedi'r cyfan. --Craigysgafn (sgwrs) 07:19, 16 Medi 2020 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Sir Llundain".