Sir Llundain
Sir gweinyddol yn ne-ddwyrain Lloegr oedd Sir Llundain (Saesneg: County of London). Roedd ganddi ffiniau sy'n cyfateb yn agos i'r ardal a elwir bellach yn Llundain Fewnol. Fe'i crëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888. Ei chorff llywodraethu oedd Cyngor Sir Llundain (Saesneg: London County Council, LCC).
Math | sir hanesyddol y Deyrnas Unedig, cyn endid gweinyddol tiriogaethol, administrative county, siroedd seremonïol Lloegr, ardal cyngor sir |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Lloegr |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Middlesex, Surrey, Essex, Caint, County Borough of West Ham, County Borough of Croydon, East Ham, Caint, Surrey |
Cyfesurynnau | 51.516°N 0.092°W |
Roedd gan y sir arwynebedd o 303 km². Yn ystod ei bodolaeth bu dirywiad graddol yn y boblogaeth wrth i drigolion symud i'r maestrefi allanol. Ym 1911 roedd ganddi boblogaeth o 4,521,685; erbyn 1961 roedd y cyfanswm hwn wedi gostwng i 3,200,484. Fe'i rhannwyd yn ddwy ran (gogledd a de) gan Afon Tafwys, sef y nodwedd ddaearyddol fwyaf arwyddocaol. Roedd yn ffinio ag Essex i'r gogledd-ddwyrain, Middlesex i'r gogledd, Surrey i'r de-orllewin, a Caint i'r de-ddwyrain.
Ym 1900 trefnwyd y sir yn 28 o fwrdeistrefi metropolitan.
Ym 1965 fe'i diddymwyd gan Ddeddf Llywodraeth Llundain 1963 a'i disodli gan Llundain Fwyaf, a lywodraethwyd gan Cyngor Llundain Fwyaf (Saesneg: Greater London Council, GLC). Roedd Llundain Fwyaf tua phum gwaith yn fwy na Sir Llundain, ac roedd hefyd yn cynnwys yr hen sir Middlesex yn ogystal â rhannau o Essex, Swydd Hertford, Surrey, a Chaint. Unwyd y 28 bwrdeistref fetropolitan yn Sir Llundain i ffurfio 12 o fwrdeistrefi Llundain newydd.