Sgwrs:Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru

Sylw diweddaraf: 11 o flynyddoedd yn ôl gan Rhyswynne

Sut mae mynd ati i gael trafodaeth am enwau'r safleoedd? Os am ddefnyddio Gôlgeidwad yna mae angen to bach ar yr o! Hefyd, onid Ymosodwr ydi Blaenwr? A Canol Cae yw Canolwr?

Falle ar dudalen sgwrs Pêl-droed fyddai'r lle gorau am drafodaeth fel hyn, a dw i'n meddwl bod yr erthygl yn cynnwys disgrifiad o'r gwahanol safleodd - dwi wedi addasu rhai fy hun yno'n barod dw i'n siwr, ond hoffaf glywed unrhwy gynnigion eraill. Os wyt yn dod ar draws rhywbeth sy'n amlwg ynanghywir (fel yr achos yma) bydda ddewr a'u newid - gan adael esboniad yn y blwch 'cyrndeb' (ar waelod blwch golygu), neu ar y dudalen sgwrs os yn esboniad hir. Mae angen safoni a dw i'n cytuno gydag ymosodwr, a chanol cae - oedd gent ti gynnig arall am goalkeeper (golwr?)? O ran to bach, d wi'n meddwl mai diogi neu anwybodaeth sy'n gyfrifol. Os chwili di, fe sylwi bod 'Peldroed' Pêldroed' a 'Pêl-droed' yn cael ei ddefnyddio. Yn hytrach na newid pob un â llaw, mae 'bot' gyda ni all wneud gwaith llafurus 'find and replace' fel hyn.--Rhyswynne (sgwrs) 21:48, 16 Medi 2013 (UTC)Ateb
Hefyd, o ran golgeidwad, dw i ddim yn 100% os oes angen to bach ar yr o. O chwilio Google, maond ar hunangofiant Dai Davies mae'n ymddangos!--Rhyswynne (sgwrs) 21:48, 16 Medi 2013 (UTC)Ateb
Gol. Sylwaf rwan nad yw mor hawdd a jyst newid yr enwau yma, gan y defnyddir Nodyn:Nat fs player (tebyg i wybodlen), ond alla i ddim gweithio allan ble sydd angen ei newid. Holaf y sawl ai greodd.--Rhyswynne (sgwrs) 22:01, 16 Medi 2013 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru".