Sgwrs:Tactegau gwyddbwyll
Awgrymu symyd i Tacteg gwyddbwyll. Teitl presennol yn drwsgl --Llygad Ebrill 22:44, 11 Chwefror 2007 (UTC)
Mae Cysill yn cyfieithu tactics fel tactegau neu tacteg. Mater o ddewis personol yw hyn - dim ots gen i. Os fydd yr erthygl yn trafod tacteg unigol gan ddefnyddio'r term ee "mae pin yn un dacteg sy'n cael ei defnyddio", mae'n well cadw'r lluosog fel tactegau. Mae geiriadur.net yn cyfieithu tactic fel 1. tacteg n.f. (tactegau) Owen
Dw'i'm yn gweld problem efo "tactegau" chwaith. Y problem gen i ydy nad oes digon o dactegau yn yr erthygl ;-) Sanddef 08:56, 12 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef
Newydd ddechrau ei llunio - fel gyda gwyddbwyll ei hun... amynedd gyfaill! Owen
Y broblem efo'r teitl yw ei fod yn dweud gwyddbwyll dwywaith! Dim llawer o ots gen i o ran tacteg/tactegau --Llygad Ebrill 16:33, 12 Chwefror 2007 (UTC)
Y tro cyntaf i mi gyfrannu at y wicipedia. Ddim cweit yn siwr ble i roi pethau. Nid erthygl ar dactegau yw hi, ond ar dactegau gwyddbwyll. Os wyt ti eisiau ei symud, croeso i ti wneud. Owen
Iawn, dwi wedi symud. Mae'r erthyglau gwyddbwyll yn edrych yn dda, cadwer at! --Llygad Ebrill 17:38, 12 Chwefror 2007 (UTC)
Diolch, a chofia awgrymu gwelliannau ble mae pethau eraill o'i le. Heb ymgyfarwyddo â'r fformat yn iawn eto! Owen